Archwiliadau ar gyfer mewnfudo
Pan fo rhywun yn dymuno mewnfudo i’r DU, gall yr awdurdodau ofyn am dystiolaeth ynghylch cyflwr y lle maent yn bwriadu byw.
Rhaid i’r dystiolaeth hon ddod gan rywun annibynnol fel syrfewr cymwys neu swyddog Iechyd yr Amgylchedd. Gall y Cyngor gynnig y gwasanaeth hwn.
Byddwn yn gwirio bod y tŷ’n ateb gofynion Deddf Tai 2004, a bod digon o le i’r rhai sy’n byw yno ar hyn o bryd ac unrhyw bobl ychwanegol sy’n bwriadu byw yno.
Byddwn angen y wybodaeth hon i gefnogi’r archwiliad:
- enw a dyddiad geni’r sawl sy’n ceisio mynediad i Brydain
- copi o’r cytundeb tenantiaeth / prawf o berchnogaeth yr eiddo
- enw a dyddiad geni’r bobl eraill sy’n byw yn y tŷ sydd i’w archwilio
- Tystysgrif Diogelwch Nwy gyfredol ar gyfer yr eiddo.
Does dim ffi am y gwasanaeth hwn ar hyn o bryd.
I wneud cais am archwiliad, cysylltwch â ni: