Adolygiad Gostyngiad Person Sengl
Cwblhewch eich Adolygiad Gostyngiad Person Sengl ar-lein
Beth sydd rhaid i mi ei wneud nesaf?
Nid yw pawb sy'n derbyn gostyngiad person sengl yn derbyn y llythyr. Bydd y rhan fwyaf o'r adolygiadau'n digwydd heb orfod anfon llythyrau. Os ydych chi wedi derbyn llythyr, bydd angen i chi gadarnhau eich manylion. Bydd rhaid i chi nodi eich Rhif Adnabod Personol (RhAP), eich cyfeirnod a chod post. Bydd y RhAP a'r manylion eraill i'w weld ar eich llythyr.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r ffurflen hon, neu os oes arnoch angen mwy o wybodaeth, edrychwch ar y
cwestiynau a ofynnir yn aml
Mwy am Adolygiad Gostyngiad Person Sengl
Mae Cyngor Gwynedd yn cynnal adolygiad er mwyn gwneud yn siŵr mai dim ond y cartrefi sydd â hawl i ostyngiad person sengl Treth Cyngor sy'n derbyn 25% o ostyngiad o'r swm y byddent yn ei dalu.
Er mwyn sicrhau bod pob disgownt sy'n cael ei ganiatáu yn gywir, mae'r Cyngor yn cynnal adolygiad i gadarnhau'r gostyngiad ar gyfer y sawl â hawl iddo a nodi'r bobl hynny sy'n hawlio gostyngiad o 25% ar eu Treth Cyngor heb fod yn gymwys. Pan mae hawliadau anghywir yn cael eu darganfod, bydd y Cyngor yn terfynu’r hawliadau ac yn adennill y gostyngiad.
Fodd bynnag, bydd achlysuron yn codi lle na fydd amgylchiadau yn hawdd i'w egluro. Er mwyn helpu ar yr achlysuron hyn, rydym wedi cynnwys y cwestiynau a ofynnir amlaf trwy gydol yr adolygiad hwn.
Nod yr adolygiad yw gwneud yn siŵr nad oes neb yn derbyn gostyngiad heb hawl. Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i sicrhau y bydd pawb â hawl i ostyngiad yn ei dderbyn. Felly, rydym yn annog unrhyw un sy'n credu eu bod yn gymwys i dderbyn gostyngiad i gysylltu â Gwasanaeth Trethi'r Cyngor.
Am fwy o wybodaeth am ostyngiadau ac eithriadau Treth Cyngor, ymwelwch â thudalen
gostyngiadau ac eithriadau