Eiddo gwag a diddodrefn, a premiwm
Os yw'r eiddo'n wag, a dim dodrefn ynddo, ni fydd Treth Cyngor yn daladwy am y 6 mis cyntaf o ddyddiad gwagio'r dodrefn (gweler eithriad dosbarth C).
Pan ddaw'r cyfnod 6 mis hwn i ben nid oes gostyngiad o gwbl, a codir treth cyngor arno.
Dweud wrthym am newid mewn eiddo gwag.
Os yw yn parhau yn wag ar ôl 6 mis pellach (sef 12 mis o`r dyddiad gwagio), mae Adran 12A Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn cynnwys darpariaeth ddewisol i gynghorau i godi “premiwm” o ddim mwy na 100% ar eiddo gwag hir dymor.
Mae Cyngor Gwynedd wedi codi premium o 50% ar eiddo sydd wedi bod yn wag a diddodrefn dros 12 mis ers 1 Ebrill 2018.
Ymhellach i hyn mae Cyngor Gwynedd nawr wedi penderfynu ar 4 Mawrth 2021 y bydd y premiwm yn cynyddu i 100% ar eiddo sydd wedi bod yn wag a diddodrefn dros 12 mis, a hyn yn effeithiol o 1 Ebrill 2021.
Gweld mwy o fanylion am y penderfyniad.
Mae'r Ddeddf hefyd yn cynnwys darpariaeth sy'n nodi eithriadau penodol lle na ellir gosod premiwm Treth Cyngor, rhestrir y rhai hynny isod:
eiddo
Dosbarthiadau o Eiddo | Diffiniad |
Dosbarth 1 |
Eiddo sy'n cael eu marchnata fel rhai ar werth - gyda therfyn amser o un blwyddyn |
Dosbarth 2 |
Eiddo sy'n cael eu marchnate fel rhai ar osod - gyda therfyn amser o un blwyddyn |
Dosbarth 3 |
Anecsau sy'n ffurfio rhan, neu sy'n cael eu trin fel rhan o'r prif eiddo |
Dosbarth 4 |
Eiddo a fyddai'n unig neu yn brif breswylfa rhywun sydd yn byw yn llety'r Lluoedd Arfog |
*Mae'r cyfyngiad amser o flwyddyn ar gyfer Dosbarth 1 a Dosbarth 2 yn effeithiol o'r dyddiad aeth yr eiddo ar y farchnad i fod ar werth neu ar osod, ac fe all hynny felly fod ycn dyddiad effeithiol unrhyw bremiwm.
Bydd premiwm o 100% yn cael ei godi o, neu ar ôl, 1 Ebrill 2021 - yn ddibynol ar pryd mae 12 mis o ddyddiad y daeth yr eiddo yn wag yn dod i ben. Rhwng y cyfnod o 1 Ebrill 2018 a 1 Ebrill 2021 premiwm o 50% sydd yn berthnasol i unrhyw eiddo ble mae'r cyfnod o 12 mis yn dod i ben.
Byddwch angen gwybod y dyddiad pryd daeth eich eiddo yn wag – bydd dyddiad dechrau codi premiwm yn dibynnu ar hyn.
Cofiwch os oes newid amgylchiadau ar unrhyw adeg yna rhaid i chi hysbysu y Cyngor gan y bydd yn effeithio yr uchod.
Tai gwag – help sydd ar gael
Os oes gennych eiddo gwag ac yn dymuno gwneud rhywbeth gyda`r eiddo ond angen cymorth, cysylltwch a Thîm Tai Gwag Cyngor Gwynedd.
Manylion cyswllt:
E-bost: trethcyngor@gwynedd.llyw.cymru
Ffôn: 01286 682 700