Cinio ysgol / clwb brecwast
Clwb brecwast
Mae rhai o ysgolion cynradd y sir yn cynnal clybiau brecwast. Cysylltwch â'ch ysgol i gael gwybod mwy am eich ysgol chi.
Rhaid talu £1 y plentyn am yr elfen gofal plant cyn y clwb brecwast. Mae disgownt ar gyfer teuluoedd o 3 neu fwy o blant cynradd sy’n defnyddio’r clwb gofal cyn-ysgol. £2 y dydd yw'r mwyafrif bydd rhiant yn ei dalu.
Rhaid archebu lle yn y clwb trwy eich cyfrif Cyngor Gwynedd ar-lein.
Cinio ysgol am ddim
Ysgolion cynradd: Mae cinio ysgol ar gael am ddim i bob plentyn ysgol gynradd. Os ydych yn derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau cymhwyso, dylech dal i gofrestru ar gyfer cinio ysgol am ddim oherwydd efallai y bydd gennych hawl i grantiau fel gwisg ysgol a chitiau Addysg Gorfforol. Mwy o wybodaeth
Ysgolion uwchradd: Mae cinio ysgol am ddim hefyd ar gael ar gyfer rhai disgyblion uwchradd o deuluoedd incwm isel. Mwy o wybodaeth.
Beth sydd i ginio?
Mae holl ysgolion Gwynedd yn rhan o’r cynllun ysgolion iach. Mae gwybodaeth ar gael ar wefan Ysgolion Iach Gwynedd.
Ysgolion uwchradd
Mae holl ysgolion uwchradd y sir yn cynnig amrywiaeth o fwydydd ffres oer a phoeth pob dydd. Bydd y prisiau yn amrywio - cysylltwch â'r ysgol am fwy o wybodaeth.
Ysgolion cynradd
Mae diod o ddŵr ar gael i bawb amser cinio. Mae ffrwythau ffres ar gael bob dydd fel dewis yn lle pwdin. Dylai bara (heb fenyn na margarin) fod ar gael drwy gydol amser cinio. Bydd tatws heb olew yn cael eu cynnig fel dewis yn lle sglodion a thatws rhost. Rydym yn paratoi’r bwyd o’r cynhwysion craidd ac nid ydym yn defnyddio bwydydd y gwyddys eu bod yn cynnwys cynhwysion a addaswyd yn enetig.
| Dydd Llun | Dydd Mawrth | Dydd Mercher | Dydd Iau | Dydd Gwener |
Wythnos 1 |
Fiiled eog bubblecrumb
(ll) Taten bob gyda caws
ffa pob a salad
tatws wedge
Cacen pinafal a cwstard
|
Peli cig a saws tomato
(ll) Selsig llysieuol a moron a rwdan bresych a brocoli pasta
Bisgedi ceirch a llefrith
|
Cig eidion neu twrci wedi’i rostio
(ll) Ffiled quorn moron a rwdan tatws rhôst greifi
Hufen iâ gyda eirin gwlanog
|
Bolognese cig eidion
(ll)Bolognese quorn corn melyn a pys sbigoglys a salad
Cacen siocled a banana a llefrith
|
Wrap cyw iâr BBQ gyda sbigoglys
(ll) Wrap quorn bbq gyda sbigoglys a salad a sglodion
Chwip chwap gyda coulis a rhesins
|
Wythnos 2 |
Peli pysgod
(ll) bysedd dibysgod ffa pob neu brocoli a salad tatws wedge
Cacen siocled a cwstard siocled
|
Pasta selsig
(ll) Pasta selsig llysieuol corn melyn a ffa gwyrdd bara garlleg
Bisged berffro a darnau banana
|
Briwgig cig eidion neu
(ll) Quorn a grefi gyda pwdin efrog moron a pys tatws hufen
Iogwrt a darnau afal
|
Pei cyw iâr
(ll) Pei quorn a llysiau
brocoli a bresych tatws wedi berwi neu tatws newydd grefi
Salad ffrwythau a hufen
|
(ll) Pitsa ffyn llysiau betys
sglodion
Myffin crymbl afal a llefrith
|
Wythnos 3 |
(ll) Mac a chaws (ll) pasta a tomato bara garlleg
pys a ffyn pupur coch
Sgwariau crispi siocled
|
Pysgodyn seren môr neu filled eog briwsion bara
(ll) Bysedd di bysgod ffa pob neu salad tatws hufen
Sbwng taffi gludiog a cwstard
|
Porc rhost a grefi
(ll) ffiled quorn brocoli a moron tatws rôst neu tatws wedi berwi saws afal
Cacen gaws a mandarin
|
Korma cyw iâr
(ll) Korma llysieuol
pys a corn melyn reis
bara naan
Byn mafon a llefrith
|
Byrgyr cig eidion mewn byn
(ll) Byrgyr quorn mewn byn
cholslo a ciwcymbr sglodion
Iogwrt a darnau afal
|
Llefrith
Mae traean o beint o lefrith yn cael ei roi am ddim bob dydd i:
- ddisgyblion o dan 5 oed
- disgyblion Cyfnod Allweddol 1 (Menter Cynulliad Cenedlaethol Cymru)
- ddisgyblion ysgolion arbennig
- unrhyw ddisgybl mewn ysgol gynradd sydd angen llefrith ar sail meddygol pan fo tystysgrif wedi’i chyflwyno gan y Swyddog Meddygol Ysgolion.
- Mae disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn gallu prynu traean o beint o lefrith am 10c.
Disgyblion sy’n dod â'u brechdanau eu hunain
Mae cwpan, plât a dŵr yn cael eu darparu ar gyfer plant sy'n dewis dod â'u bwyd eu hunain.
Cysylltu â ni
Rydym wastad yn croesawu eich adborth. Gyrrwch eich sylwadau neu argymhellion ar gyfer gwella i:
Os ydych am gyflwyno cwyn ffurfiol gallwch wneud hynny drwy ddilyn trefn cwynion ffurfiol Cyngor Gwynedd