Yn dilyn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol ar y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Chwilog o 65 i 95 o 1 Medi 2023, cyflwynwyd adroddiad ar yr ymgynghoriad i Gabinet Cyngor Gwynedd ar 24 Ionawr 2023.
Ystyriwyd y sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd ar gynyddu capasiti Ysgol Chwilog ynghyd â’r ymatebion i’r sylwadau hynny, a phenderfynwyd:
Cymeradwyo cyhoeddi rhybudd statudol a chynnal cyfnod gwrthwynebu, yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig i ehangu safle’r ysgol a fyddai’n cynyddu capasiti Ysgol Chwilog i 95 o 1 Medi 2023, sef cynnydd o dros 25% o’r capasiti presennol.
Yn unol â’r penderfyniad, bydd Rhybudd Statudol yn cael ei gyhoeddi ar 8 Chwefror 2023. Gall unrhyw un wrthwynebu'r cynnig o fewn cyfnod o 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi'r rhybudd hwn, hynny yw erbyn 8 Mawrth 2023.
Dylid anfon gwrthwynebiadau ysgrifenedig i Pennaeth Addysg, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH neu drwy anfon e-bost i moderneiddioaddysg@gwynedd.llyw.cymru
Mae holl wybodaeth a dogfennaeth sy’n gysylltiedig â’r prosiect ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.llyw.cymru/moderneiddioaddysg.