Ar 3 Tachwedd 2020 bu i Gabinet Cyngor Gwynedd gwrdd i drafod argymhelliad y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ynglŷn â phenderfyniad y Cabinet ar 15 Medi 2020, parthed Ysgol Abersoch. Gweld cofnodion y cyfarfod.
Yn dilyn ystyriaeth a thrafodaeth fanwl, penderfynodd Cabinet y Cyngor:
“... na ddylid addasu penderfyniad gwreiddiol y Cabinet a wnaethpwyd ar y 15 Medi 2020 i gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Abersoch yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Abersoch ar 31 Awst 2021 a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Medi 2021 ymlaen a mabwysiadu hyn fel penderfyniad terfynol”
Beth yw’r camau nesaf?
Fel y camau nesaf, byddwn yn trefnu i gynnal cyfnod o ymgynghori statudol yn unol â’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013 a chanllawiau’r Cod Trefniadaeth Ysgolion 011/2018. Golyga hyn y bydd dogfen ymgynghori yn cael ei chyhoeddi a bydd cyfle i unrhyw un gynnig sylwadau ysgrifenedig ar y cynnig arfaethedig. Bydd y cyfnod yma yn para oddeutu 6 wythnos (rhaid rhoi o leiaf 42 o ddiwrnodau i bobl ymateb i’r ddogfen, gyda 20 o’r rhain yn ddiwrnodau ysgol).
Rhagwelir y bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal yn yr wythnosau nesaf.
Yn dilyn hynny, bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet er mwyn adrodd yn ôl ar ganlyniadau’r ymgynghoriad, ac ymateb i’r sylwadau a dderbyniwyd. Bydd yn ofynnol wedyn i’r Cabinet ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad, a phenderfynu a ddylid cyhoeddi Rhybudd Statudol ar y cynnig a ymgynghorwyd arno ai peidio.