Mae Ysgol Treferthyr ar ei newydd wedd yn agor ei drysau am y tro cyntaf ar ddechrau tymor yr hydref, diolch i brosiect gwerth £8.8 miliwn gan Gyngor Gwynedd i godi ysgol newydd, eco-gyfeillgar fydd yn darparu amgylchedd ddysgu o’r radd flaenaf i blant Cricieth a’r cylch.
Mae holl deulu Ysgol Treferthyr – yn ddysgwyr, rhieni, staff a llywodraethwyr – wedi bod yn edrych ymlaen yn eiddgar, wedi iddynt ffarwelio â hen adeilad yr ysgol oedd wedi cyrraedd diwedd ei oes ddiwedd tymor yr haf.
Mae gan yr Ysgol Treferthyr newydd adnoddau o’r radd flaenaf sy’n cwrdd ag anghenion addysg a Chwricwlwm i Gymru, megis dosbarthiadau aml-bwrpas, neuadd bwrpasol ar gyfer cynnal gweithgareddau amrywiol gan yr ysgol a’r gymuned, yn ogystal a caeau chwarae a gofod aml-chwaraeon.
Bydd yr adeilad newydd hefyd yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer darpariaeth blynyddoedd cynnar a gofal plant fydd yn cynnig addysg, chwarae a gofal plant i blant cyn-oed ysgol yn ogystal â chlwb ar ôl ysgol i blant oed cynradd. Bydd Canolfan ABC ar safle Ysgol Treferthyr hefyd, yn cynnig gofod i asesu plant gydag anghenion dysgu ychwanegol.
Roedd amddiffyn yr amgylchedd yn flaenoriaeth drwy gydol y broses o gynllunio ac adeiladu’r ysgol eco-gyfeillgar hon, gyda thechnolegau gwyrdd fel pympiau gwres, ffynhonnell aer a phaneli solar yn pweru'r adeilad, ynghyd â deunyddiau cynaliadwy er mwyn cefnogir egwyddorion di-garbon. Mae'r ysgol hefyd yn cynnwys pwyntiau gwefru ceir trydan a system batri ar y safle i storio a defnyddio’r pŵer a gynhyrchir.
Dywedodd Pennaeth Ysgol Treferthyr, Dylan Roberts: “Rydym i gyd yn edrych ymlaen yn arw tuag at y cyfnod cyffrous nesaf wrth i ni symud i safle newydd Ysgol Treferthyr. Mae adnoddau gwych yma sydd yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae’r disgyblion yn edrych ymlaen i ymgartrefu yn eu dosbarthiadau newydd sydd wedi eu henwi ar ôl afonydd lleol yn ardal Eifionydd.
“Rydym fel ysgol yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at gael yr ysgol yn barod. Rydym yn hynod lwcus o gael adeilad mor arbennig ar gyfer ein hysgol. Edrychwn ymlaen i gael darparu addysg a chreu profiadau byth gofiadwy i blant Ysgol Treferthyr ar ein safle newydd.”
Meddai’r Cynghorydd Beca Brown, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg: “Rydw i’n siŵr fod disgyblion Ysgol Treferthyr a’u teuluoedd yn edrych ymlaen yn fawr i gael ymgartrefu yn eu hysgol newydd. Roedd yr hen adeilad wedi dyddio a bellach ddim yn addas i bwrpas, felly dwi’n rhannu cyffro’r gymuned leol am yr holl adnoddau modern sydd yn yr ysgol newydd, a’r cyfleon addysgol gwych fydd ar gael i’r disgyblion.
“Dwi’n ddiolchgar i bawb sydd wedi gweithio’n galed er mwyn cyrraedd y garreg filltir yma, a dymunaf y gorau i’r plant a’r holl staff yn eu hysgol newydd.”
Meddai Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd Cabinet Dros Addysg Llywodraeth Cymru: "Mae'n wych ein bod wedi gallu cefnogi'r ysgol newydd hon. Mae'r defnydd o dechnoleg werdd yn bwysig i mi oherwydd drwy adeiladu ysgolion cynaliadwy rydyn ni’n darparu ar gyfer y dyfodol.
"O’u cyfuno ag addysgu a dysgu rhagorol, gallai’r cyfleusterau o'r radd flaenaf hyn helpu i sicrhau bod ein plant yn cael yr addysg orau bosibl. Rwy'n gobeithio y byddant yn helpu'r dysgwyr a'r gymuned ehangach i ffynnu."
Ariannwyd yr ysgol newydd ar y cyd gan Gyngor Gwynedd, Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, Rhaglenni Gyfalaf Cynnig Gofal Plant ac Anghenion Dysgu Ychwanegol, Llywodraeth Cymru.
Y contractwyr fu’n gyfrifol am wireddu’r weledigaeth ar gyfer yr ysgol oedd Wynne Construction, a dywedodd Andy Lea, Rheolwr y Prosiect “Mae’r tîm safle wedi gwneud gwaith ffantastig i gael Ysgol Treferthyr yn barod mewn pryd ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd, ac rydym yn gobeithio bydd y dysgwyr a’r staff yn mwynhau’r ysgol fodern ac ysbrydoledig yma.
“Mae hi wedi bod yn wych i weithio’n agos gyda Chyngor Gwynedd unwaith eto yn ogystal a’r gadwyn gyflenwi a’r gymuned leol ble rydym wedi ymdrechu i adael etifeddiaeth fydd yn parhau drwy gynnig cyfleoedd gwaith ac hyfforddiant.”