Adroddiad Gwrthwynebu
Yn dilyn cyhoeddi rhybudd statudol ar y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol y Faenol, cynhaliwyd cyfnod gwrthwynebu rhwng 23 Tachwedd 2018 a 21 Rhagfyr 2018. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad yn ystod y cyfnod gwrthwynebu.
Bydd Corff Llywodraethol Ysgol y Faenol yn cyfarfod ar y 24 Ionawr 2019 i drafod y camau nesaf.
Gweler isod gopi o adroddiad yn dilyn cyfnod gwrthwynebu:
Adroddiad Gwrthwynebu
Cyfnod gwrthwynebu
Yn dilyn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol yn ymwneud a chynyddu capasiti Ysgol y Faenol, adroddwyd i Gorff Llywodraethol Ysgol y Faenol ar y 20 Tachwedd, 2018.
Penderfynodd y Corff Llywodraethol :
- Cymeradwyo'r cynnig gynyddu capasiti Ysgol y Faenol o 186 i 315
- Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig uchod yn unol â gofynion Adran 48 o ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
Yn unol â’r penderfyniadau uchod, cyhoeddwyd rhybudd statudol ar y 23 Tachwedd 2018.
Gall unrhyw un wrthwynebu'r cynnig o fewn cyfnod o 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi'r rhybudd hwn, hynny yw erbyn 21 Rhagfyr 2018.
Dylid anfon gwrthwynebiadau ysgrifenedig at sylw Cadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol y Faenol drwy law y Swyddfa Moderneiddio Addysg:
Cyngor Gwynedd,
Swyddfa’r Cyngor,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL55 1SH
neu drwy anfon neges e-bost at moderneiddioaddysg@gwynedd.llyw.cymru.