Diogelwch a lles
Am fwy o wybodaeth am y polisïau, neu i dderbyn copi o ganllawiau'r ysgol, cysylltwch â’r ysgol: Manylion Cyswllt Ysgolion.
Cymorth cyntaf mewn ysgolion
Mae'n rhaid cael o leiaf un person sydd wedi eu hyfforddi mewn Cymorth Cyntaf ym mhob ysgol.
Mae gan bob ysgol wybodaeth ar gymorth cyntaf sydd yn cynnwys gwybodaeth am:
- offer a chyfleusterau cymorth cyntaf addas
- amlinelliad o'r nifer o bersonél cymorth cyntaf sy'n rhaid i ysgolion eu cael
- y math o asesiad risg sy'n cael ei ddefnyddio er mwyn penderfynu ar anghenion cymorth cyntaf yr ysgol
Bwlio
Am unrhyw wybodaeth ynglŷn a bwlio, ewch i'r dudalen bwlio.
Grym rhesymol
Mae gan bob ysgol ganllawiau unigol ynglŷn â defnyddio grym rhesymol. Mae'r canllawiau'n cynnwys gwybodaeth fel:
- beth yw'r gyfraith ynglŷn ag athro yn defnyddio grym rhesymol mewn ysgol
- pa staff a awdurdodir i ddefnyddio grym rhesymol a sut maent yn cael ei hyfforddi
- beth yw'r broses o gofnodi digwyddiadau lle defnyddiwyd grym corfforol gan aelod o staff
- beth fydd yn digwydd os gwneir cwyn yn dilyn digwyddiad
Rhoi meddyginiaeth i blentyn
Mae gan bob ysgol ganllawiau ynglŷn â darparu meddyginiaeth i ddisgyblion. Mae'r canllawiau'n cynnwys gwybodaeth fel:
- beth yw'r oblygiadau cyfreithiol ar athrawon i roi meddyginiaeth i ddisgyblion
- pa aelodau o staff sy'n gymwys i roi meddyginiaeth i ddisgyblion
- pa fath o feddyginiaeth sy'n addas i'w storio yn yr ysgol
Polisi tynnu lluniau
Mae gan bob ysgol ganllawiau unigol ynglŷn â thynnu lluniau. Mae'r canllawiau'n nodi:
- ym mha amgylchiadau mae angen caniatâd gan riant neu warchodwr
- pa fath o ganiatâd fydd ei angen gan riant neu warchodwr ar gyfer lluniau sy'n cael eu tynnu at bwrpas cyhoeddusrwydd
- ym mha sefyllfaoedd y dylid gwahardd camerâu a ffonau symudol
Nyrs ysgol
Os oes arnoch chi eisiau gwybodaeth am nyrs eich ysgol, cysylltwch â'ch canolfan leol:
Arfon
Bodfan Bach – 01286 685558
Tŷ Cegin – 03000 850034
Dwyfor
Cilan – 01758 701152
Meirionydd
Y Lawnt – 03000 850010