Triwantu
Mae’n rhaid i bob plentyn o oedran ysgol statudol (rhwng 5-16 oed) dderbyn addysg sy’n addas i’w anghenion. Mae hyn yn golygu ei bod yn ddyletswydd ar rieni neu warcheidwad plentyn i sicrhau bod y plentyn wedi cofrestru mewn ysgol ac yn mynychu’n rheolaidd neu bod darpariaeth addas arall ar gael.
Mae’r mwyafrif o blant a phobl ifanc yn cael addysg drwy’r system ysgolion, yn mynychu yn aml ac yn cyflawni hyd eithaf eu gallu. Dim ond canran isel o ddisgyblion sy’n triwantu.
- gall gael trafferth cadw ar ben ei waith ysgol
- bydd yn colli yr ochr gymdeithasol o’r ysgol - cyfeillgarwch, gweithgareddau cymdeithasol, clybiau, chwaraeon ac ati sydd i gyd yn help er mwyn ei baratoi at fod yn oedolyn
- gall gael ei ddenu i ymddwyn yn anghymdeithasol neu droseddu - mae ymchwil yn profi bod plant sydd ddim yn mynychu ysgol yn gyson neu’n triwantu'n aml yn llai tebygol o lwyddo yn yr ysgol ac yn fwy tebygol o ymddwyn yn anghymdeithasol neu droseddu
- mae’n fwy tebygol o fod yn ddi-waith wedi gadael yr ysgol
- dechrau yn yr ysgol
- cadw mewn cysylltiad cyson gydag ysgol eich plentyn, trwy fynychu pob noson rieni ac ati fel bod eich plentyn yn gwybod bod gennych ddiddordeb yn eu cynnydd
- rhowch wybod i’r ysgol os ydi’ch plentyn yn absennol am reswm go iawn fel salwch a chysylltwch â’r ysgol ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb fel bo staff yn gwybod fod eich plentyn yn saff
- cefnogwch yr ysgol yn eu hymdrechion i reoli ymddygiad gwael a cheisiwch annog eich plentyn i ddilyn rheolau’r ysgol
- peidiwch â chadw eich plentyn o’r ysgol ar gyfer penblwyddi, tripiau siopa neu apwyntiadau meddygol neu ddeintydd sydd ddim yn bwysig - gall y rhain aros tan bod yr ysgol wedi cau
- ceisiwch osgoi mynd ar wyliau yn ystod y tymor gan y gall hyn ansefydlogi eich plentyn a’i wneud yn anodd iddynt ddal i fyny gyda’r gwaith
- peidiwch â chuddio'r ffaith na gwneud esgusodion
- dywedwch wrtho nad ydych yn hapus ei fod yn triwantu
- cysylltwch gyda’r ysgol i drafod unrhyw broblemau a all fod yn poeni eich plentyn
- gofynnwch am fanylion cyswllt y Swyddog Lles Addysg ar gyfer ysgol eich plentyn - gallant gynnig cyngor a chefnogaeth i’ch plentyn os ydynt yn cael problemau
- mae’r Awdurdod Lleol yn gyfrifol am wirio bod plant sydd wedi eu cofrestru mewn ysgol ac o oedran ysgol statudol yn mynychu’n rheolaidd - bydd y Swyddog Lles Addysg ar gyfer ysgol eich plentyn yn archwilio achosion o bresenoldeb gwael ac yn fodlon gweithio’n agos gyda chi er mwyn ceisio atal y triwantu
- os bydd eich plentyn yn triwantu dro ar ôl tro, neu’n peidio â mynychu’r ysgol yn rheolaidd gall yr Awdurdod Lleol benderfynu gweithredu’n gyfreithiol er mwyn sicrhau eu presenoldeb
- gall yr Awdurdod Lleol weithredu mewn amryw o ffyrdd gan gynnwys gwneud cais i’r Llys am Orchymyn Goruchwylio Addysg, rhoi dirwy neu erlyn a all arwain at ddirwy neu hyd yn oed garchar.