Polisi Cludiant sefyllfa methu agor ysgol (neu ran o ysgol) Cyflwynir trefniadau cludiant dros dro mewn sefyllfa ble nad yw’n bosib agor ysgol ddalgylch (neu ran o ysgol ddalgylch) am gyfnod o amser. Gall sefyllfaoedd fel hyn godi, er enghraifft, o fethu â staffio ysgol, neu lle bo difrod wedi bod mewn ysgol (e.e. tân).
Gall y trefniadau fod ar gyfer ystod oedran cyfan ysgol, neu ystod o oedrannau penodol o fewn ysgol (yn dibynnu ar yr amgylchiadau).
Pan na fydd hi’n bosib agor ysgol (neu ran o ysgol) ddalgylch fe ystyrir bod dalgylch yr ysgol nad yw’n bosib ei hagor yn dod yn rhan o ddalgylch gwahanol (e.e. dalgylch ysgol gyfagos (neu ddalgylch mwy estynedig na hynny os oes angen) er mwyn sicrhau adeilad addas sydd ar gael i gartrefu’r ysgol).
Cymhwysir Polisi Cludiant Ysgolion arferol y Cyngor i’r dalgylch gwahanol, newydd, dros dro hwn.
Felly - darperir cludiant i ddisgyblion sy’n byw yn y Sir ac sydd wedi cofrestru mewn ysgol sy’n cael ei rhedeg gan y Cyngor
- Ysgolion cynradd - ar gyfer disgyblion sy’n byw 2 filltir neu ymhellach o’r ysgol agosaf (neu adeilad addas) yn y dalgylch gwahanol, newydd dros dro ble mae llefydd ar gael, neu i ysgol sydd ddim yn y dalgylch gwahanol, newydd dros dro ond sydd yn agosach at gartref y disgybl (dim yn cynnwys disgyblion dosbarth meithrin).
- Ysgolion uwchradd - ar gyfer disgyblion o dan 16 oed sy’n byw 3 milltir neu ymhellach o’r ysgol agosaf (neu adeilad addas) yn y dalgylch gwahanol, newydd dros dro ble mae llefydd ar gael, neu i ysgol sydd ddim yn y dalgylch gwahanol, newydd dros dro ond sydd yn agosach at gartref y disgybl.