Dyma'r gwasanaethau bws y gallwch ei defnyddio efo Tocyn Teithio 16+.
Eich cyfrifoldeb chi yw canfod pa wasanaethau sy'n cysylltu â'i gilydd.
Dim ond llwybrau sy'n rhan o'r Rhwydwaith y mae modd eu defnyddio gyda'r Tocyn Teithio. Nid yw pob taith ar gael i chi felly mae'n bwysig eich bod yn edrych yn fanwl ar yr amserlenni isod sy'n dangos pa deithiau sydd ar gael cyn prynu'r tocyn.
Ble mae'r gwasanaeth dan gontract i'r Awdurdod bydd yr hawl teithio fel a ganlyn: Rhaid i bob taith i'r ysgol / coleg ddod i ben cyn 12:00, ac ni chaiff y daith adref gychwyn cyn 13:00 nac ar ôl 18:00.
Mae cyfyngiadau pellach ar wasanaeth 12. Os ydych yn ansicr pa wasanaethau sydd ar gael i chi neu am help gyda'r amserlenni, holwch yn yr ysgol / coleg neu ffoniwch Galw Gwynedd ar 01766 771000.
Os ydych yn teithio i Goleg Meirion Dwyfor Pwllheli ac yn dod o rai llefydd i'r de o Borthmadog, byddwch yn cael cynnig tocyn trên neu fws.
Gwasanaethau bws coleg dynodedig sydd ar gael:
Amserlenni gwasanaethau cyhoeddus sydd hefyd ar gael:
3 Pwllheli – Criccieth – Porthmadog
14 Tudweiliog - Trefor - Pencaenewydd - Pwllheli
S3 Beddgelert – Bangor – Dinorwic via Caernarfon
Rhaid i bob taith i'r ysgol / coleg ddod i ben cyn 12:00, ac ni chaiff y daith adref gychwyn cyn 13:00 nac ar ôl 18:00 (ag eithrio gwasanaeth rhif 12 ble mai dim ond siwrneiau penodol sydd ar gael).
Amserlen gwasanaeth cyhoeddus ble dim ond siwrneiau penodol sydd ar gael:
T2 Aberystwyth - Dolgellau - Porthmadog - Bangor
FF1 Fflecsi Dolgellau Aberangell – Dinas Mawddwy – Dolgellau)
G21 Dolgellau – Tywyn – Machynlleth
G23 Abermaw – Harlech – Porthmadog
G24 Dolgellau – Machynlleth – Tywyn
Rhaid i bob taith i'r ysgol / coleg ddod i ben cyn 12:00, ac ni chaiff y daith adref gychwyn cyn 13:00 nac ar ôl 18:00.
G10 Bethesda - Mynydd Llandygai - Bangor
Os ydych yn teithio i Goleg Meirion Dwyfor Pwllheli ac yn dod o rai llefydd i'r de o Borthmadog, tocyn trên fyddwch chi'n ei gael ac ni fyddwch yn cael teithio ar y bws.