Digwyddiadau Busnes

Mae digwyddiadau ar gyfer busnesau yn cael ey cynnal ar hyd y flwyddyn yng Ngwynedd. Cadwch lygaid ar y dudalen i weld y diweddaraf am ddigwyddiadau Busnes@Gwynedd.


Digwyddiadau ar y gweill

 

Wythnos Busnes Cyngor Gwynedd 2024

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Wythnos Busnes yn dychwelyd rhwng 14 a 18 Hydref 2024. Bydd y gyfres o ddigwyddiadau hir-ddisgwyliedig hon yn cael eu cynnal ar draws gwahanol leoliadau yng Ngwynedd, gan gynnig llwyfan unigryw i fusnesau a sefydliadau lleol gysylltu, rhannu gwybodaeth, a chael eu hysbrydoli ar gyfer y dyfodol.

Drwy gydol yr wythnos, mae Cyngor Gwynedd wedi partneru â sefydliadau cymorth busnes i gynnal ystod o sesiynau sydd wedi'u cynllunio i ddarparu mewnwelediadau gwerthfawr a chyngor ymarferol, bydd y rhaglen yn darparu ar gyfer anghenion amrywiol busnesau ledled y sir.

Dyma gipolwg o'r hyn sydd ar y gweill ar gyfer yr wythnos:

Gweld rhaglen Wythnos Busnes Gwynedd 2024

 

Gallwch ddarganfod mwy am y digwyddiadau, a sicrhau eich lle yn unrhyw sesiwn drwy glicio ar y lincs isod: 

Dyddiad 

Lleoliad 

Amser 

Dolen  

14/10/24 

Dolgellau 

18:30 – 20:30 

Lansiad Wythnos Busnes Gwynedd

15/10/24 

Bangor 

09:00 – 11:00 

Brecwast Busnes Bangor 

16/10/24

Pwllheli 

09:00 – 11:00 

Brecwast Busnes Pwllheli 

16/10/24 

Porthmadog 

18:00 – 20:30

Merched Mentrus Môn a Gwynedd

17/10/24

Porthmadog

08:45 - 10:30

Rhwydweithio Morlais

18/10/24 

Penygroes 

09:00 – 12:30 

 Cwrdd a'r darparwyr 

18/10/24

Blaenau Ffestiniog

18:00 - 20:00

ARFOR yng Ngwynedd

 

Digwyddiadau Busnes eraill yng Ngwynedd

Dyddiad: 23/10/24

Amser: 09:00 – 11:00yb

Lleoliad: Plas Tan y Bwlch

Rydym yn mynd i Blas Tan y Bwlch, Maentwrog ar gyfer y digwyddiad nesaf yn ein cyfres o frecwastau busnes, sydd wedi'i deilwra'n benodol ar gyfer busnesau sy’n gweithredu fewn Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru. Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim.

Beth i'w ddisgwyl:

  • Dysgwch am arwyddocâd dynodiad Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru fel Safle Treftadaeth y Byd
  • Dysgwch am fusnesau yn yr ardal a'u cysylltiad â'r Dirwedd Lechi, gyda chyflwyniadau gan berchnogion busnesau lleol
  • Cysylltwch â sefydliadau cymorth busnes a darganfod sut y gallant gefnogi eich busnes
  • Cyfle i rwydweithio gyda pherchnogion busnesau eraill
  • Gweithgaredd bonws (i'w gadarnhau) i gau'r sesiwn. Y tro diwethaf cawsom daith o amgylch Zipworld

Mae'r digwyddiad yn cynnwys te, coffi a lluniaeth ysgafn. Byddwn yn darparu ar gyfer eich anghenion dietegol.

Cliciwch yn fan hyn i gofrestru: Brecwast Busnes Llechi Cymru | Wales Slate Business Breakfast Tickets, Wed, Oct 23, 2024 at 9:00 AM | Eventbrite

Mae’r cynnig hwn ar gael ar gyfer pob digwyddiad a wnaeth gais am y Gronfa cymorth digwyddiadau SPF, Gwynedd neu sydd wedi mynychu cyfarfod Grŵp Ymgynghori Diogelwch Gwynedd. Mae'r cynnig ar gyfer un person fesul sefydliad/digwyddiad.

Sylwch mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar y cwrs, a bydd mynediad ar sail y cyntaf i'r felin. Os bydd galw mawr, efallai y byddwn yn cynnig cwrs ychwanegol ar ddyddiad hwyrach.

Bydd y cwrs yn ymdrin â’r meysydd canlynol:

  • Cyflwyniad i ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch y DU yn y diwydiant digwyddiadau
  • Cyfrifoldeb am ddiogelwch mewn digwyddiadau – Dealltwriaeth o’r   termau perygl, risg, tebygolrwydd, a chanlyniad
  • Adnabod peryglon ac ysgrifennu asesiadau risg
  • Systemau gwaith diogel mewn digwyddiadau
  • Arwyddion diogelwch ac Offer Diogelu Personol mewn digwyddiadau
  • Rhoi gwybod am ddigwyddiadau a damweiniau
  • Gweithdrefnau Argyfwng a Phlant Coll
  • Bygythiadau Diogelwch a Therfysgaeth 

I gofrestru ar gyfer y cwrs, cwblhewch y ffurflen ar-lein gyda'ch manylion.

Cofrestru Cwrs IOSH

Unwaith y byddwn wedi derbyn eich ffurflen gofrestru, byddwn yn cysylltu â chi ymhellach. Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn dolen Zoom ar gyfer y cwrs a chopi o'r llyfr gwaith y cwrs o flaen o law.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.

digwyddiadau@gwynedd.llyw.cymru

Mae Busnes@Gwynedd a menter cyflogaeth Gwaith Gwynedd yn cynnal sesiynau galw heibio.  Mae croeso i unrhyw fusnes neu unigolyn alw heibio am sgwrs. Bydd yn gyfle gwych i ddysgu mwy am sut gall Cyngor Gwynedd eich helpu o ran anghenion recriwtio eich busnes.

 

12/11/2024

Sesiwn Galw Heibio GG & Busnes@

Pwllheli

Felin Fach

09:30 - 15:30



Digwyddiadau sydd wedi eu cynnal

Os ydych chi’n berchennog ar fusnes twristiaeth yng Ngwynedd neu Eryri, ac eisiau gwella eich presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol, yna mae ein dosbarth meistr ‘Gwynedd ac Eryri Ni’ yn addas i chi! 

Ymunwch â ni yn swyddfeydd Parc Cenedlaethol Eryri, Penrhyndeudraeth, ddydd Mercher 25 neu ddydd Iau 26 Medi, 9:30am – 4:30pm, ar gyfer sesiwn anffurfiol gyda Rhian Floyd a Dafydd Wyn Orritt o’r brif asiantaeth gyfathrebu ddwyieithog, Equinox.  

Byddwch yn dysgu am y canlynol:  

  • Datblygu strategaeth cyfryngau cymdeithasol. 
  • Ennyn diddordeb eich dilynwyr. 
  • Creu cynnwys da. 
  • Creu cymuned ar-lein. 
  • Cynyddu gwerthiant/archebion drwy eich gwefan. 
  • Defnyddio mwy o Gymraeg ar-lein — defnyddio’r ddarpariaeth “Cynnig Cymraeg” gan Gomisiynydd y Gymraeg. 
  • Hyrwyddo arferion cynaliadwy (heb orfod pregethu!) 
  • Cyfleoedd partneriaeth twristiaeth gynaliadwy a chymorth grant. 
  • Bod yn llysgennad dros eich ardal leol a chael gafael ar becynnau cymorth i fusnesau lleol. 
  • Ymgyrch Gwynedd ac Eryri Ni — a’r Cod Ymddygiad sydd ar y gweill. 

Ar ben hynny, bydd cyfle i’r rhai sy’n bresennol drefnu sesiynau dilynol un-i-un gyda’r hyfforddwyr — a fydd yn rhoi’r cyfle iddynt gael adborth a chyngor! Bydd hyn yn cynnwys awgrymiadau pwrpasol ar gyfer eich strategaeth cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal ag awgrymiadau pellach ar gyfleoedd partneriaeth twristiaeth gynaliadwy a chymorth grant. 

Bydd cinio a lluniaeth ar gael drwy gydol y dydd – nodwch unrhyw ofynion dietegol yn y gofod a ddarperir. 

Brysiwch — dim ond lle i 12 o bobl sydd ar gael ym mhob sesiwn. Cofrestrwch yn rhad ac am ddim heddiw wrth defnyddio’r ddolenni isod:

25/09/24 – https://www.eventbrite.co.uk/e/sesiwn-cyfryngau-cymdeithasol-social-media-masterclass-tickets-1016310430857?aff=oddtdtcreator&_gl=1%2Aa1bshr%2A_up%2AMQ..%2A_ga%2AMTUzNDI5MjEwNC4xNzI2MjM4NzIw%2A_ga_TQVES5V6SH%2AMTcyNjIzODcyMC4xLjAuMTcyNjIzODcyMC4wLjAuMA

26/09/24 – https://www.eventbrite.co.uk/e/sesiwn-cyfryngau-cymdeithasol-social-media-masterclass-tickets-1016554320337?aff=oddtdtcreator&_gl=1*egs3yz*_up*MQ..*_ga*MTQ0ODAxNjc4OC4xNzI2NDgzMTY2*_ga_TQVES5V6SH*MTcyNjQ4MzE2Ni4xLjAuMTcyNjQ4MzE2Ni4wLjAuMA

Awst 4 - 12 2023

I ddathlu bod yr Eisteddfod yn dod i Llŷn ac Eifionydd cynigiodd Busnes@Gwynedd 6 caban yn rhad ac am ddim i fusnesau lleol nad oeddent wedi masnachu yn yr Eisteddfod o'r blaen. Ar ôl proses gystadleuol bu 13 busnes yn llwyddiannus:

  • Casgliad Lowri Roberts
  • Paentio Wynebau Enfys
  • Gwenynfa Pen y Bryn
  • Coffi Dre
  • Te Parti
  • Blagur Coed
  • Meian
  • Dylunio Wyn
  • Taldraeth a Maeth Natur
  • Pensolar Cyf
  • Dillad yr Wyddfa
  • Mary Gwen

Ar 9/08/2023 roedd hi’n Ddiwrnod Llewyrchus Gwynedd o fewn pabell Cyngor Gwynedd ac arweiniodd hyn at banel cyffrous Busnes@Gwynedd lle bu Daloni Metcalfe a Lesley Griffiths AS, Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, yn siarad â busnesau lleol Meian, Mary Gwen a Dylunio Wyn am eu cynnyrch, eu gwasanaethau a’u perthynas â’r Gymraeg.

Roedd Diwrnod Busnes Cyngor Gwynedd yn gyfle unigryw i fusnesau a sefydliadau sy’n gweithredu yng Ngwynedd ddod at ei gilydd i gwrdd, dysgu a rhannu a datblygu syniadau a strategaethau newydd.

Roedd y digwyddiad yn cynnig trosolwg o hinsawdd busnes yn Ngwynedd, yn ogystal â throsolwg o’r math o gymorth sydd ar gael i fusnesau wrth iddynt lywio’r heriau sy’n eu wynebu. 

  • Roedd bore’r digwyddiad yn canolbwyntio ar 3 busnes lleol, gan rannu straeon am yr heriau maent wedi wynebu a’r cyfleon sydd wedi codi drwy fod yn arloesol.
  • Roedd sesiwn y prynhawn yn canolbwyntio ar y cymorth ymarferol sydd ar gael gan sefydliadau cymorth busnes yng Ngwynedd.

Yn y bore roedd cyfle i glywed straeon 3 busnes lleol o sut maent wedi delio hefo heriau a wynebwyd yn yr blynyddoedd diwethaf ac sut maent wedi ffeindio ffyrdd arloesol i barhau hefo ei busnesau.

  •  Harlech Foodservice
  • Tanya Whitebits
  • Pant Du

Yn yr prynhawn roedd gyfle i glywed am yr hinsawdd fusnes gan Dr Edward Jones, darlithydd mewn Economeg o Brifysgol Bangor ac yr sefydliadau cymorth isod ynglŷn a sut all nhw rhoid cymorth ymarferol i fusnesau yn Ngwynedd, gan gynnwys gwybodaeth ynglŷn a grantiau cymorth busnes gan Cyngor Gwynedd.

  • Busnes Cymru
  • Busnes@ Llandrillo Menai
  • Banc Datblygol Cymru
  • Purple Shoots
  • Tim Cymorth Busnes Cyngor Gwynedd

Roedd y sefydliadau isod gyda stondinau yn yr digwyddiad ac ar gael i gynnig cymorth ac gwybodaeth ynglŷn a’i gwasanaethau.

  • Gwaith Gwynedd
  • Byw’n Iach
  • Hwb Menter
  • Busnes@ Llandrillo Menai
  • ARFOR

Mewn ymateb i’r argyfwng costau byw a’r costau rhedeg busnes cynyddol, trefnwyd gweminar ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint wedi eu lleoli yng Ngwynedd oedd yn edrych ar ffyrdd o wella effeithlonrwydd busnes er mwyn gostwng costau a chynyddu refeniw.

Yn cymryd rhan yn y gweminar roedd Siwan Lisa Evans, Prosiect Platfform Digidol ar gyfer y Sectorau Bwyd a Lletygarwch, Cyngor Gwynedd, Geraint Huws a Zoe Pritchard, Grŵp Ymgynghori Lafan a Sarah Morris, Busnes Cymru.

Gweld copi o’r cyflwyniadau


Mwy o wybodaeth

Cysylltwch â’r Tîm Cefnogi Busnesau Lleol: busnes@gwynedd.llyw.cymru 

Mewn ymateb i’r argyfwng costau byw a’r costau ynni cynyddol, cynhaliodd Uned Cefnogi Busnes y Cyngor weminar ar gyfer busnesau lleol oedd yn edrych ar ffyrdd o effeithlonni eu hadnoddau er mwyn gostwng eu costau a’u hallyriadau carbon.

Yn cymryd rhan yn y digwyddiad roedd Richard Fraser-Williams o Fusnes Cymru a Stu Meads, ymgynghorydd amgylcheddol o brosiect yr Academi Ddigidol Werdd, Coleg Llandrillo-Menai.

Mae copi o gyflwyniadau’r gweminar, y Canllaw Arbedion Gwyrdd a phecyn gwybodaeth pellach ar gael isod:

  1. Cyflwyniadau Busnes Cymru a’r Greener Edge
  2. Canllaw Arbedion Gwyrdd
  3. Pecyn Gwybodaeth Bellach