Gwella Llwybrau Cerdded, Beicio a Defnyddio Olwynion
Mae’r prosiect hwn yn gydweithrediad rhwng Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Gwynedd i ystyried ei gwneud yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy cyfleus i bobl gerdded, beicio a defnyddio olwynion ar lwybrau i Fangor a thu hwnt i’r orsaf drenau. Dros y blynyddoedd nesaf, mae’n debygol y bydd llwybrau amrywiol yn cael eu hadolygu. Fodd bynnag, am y tro, bydd pwyslais yr astudiaeth ar yr A487, Ffordd Penrhos, a Ffordd Penchwintan, rhwng Cylchfan Y Faenol a
Gorsaf Drenau Bangor.
Ar y dudalen hon, gallwch weld syniadau sy’n dod i’r amlwg ar gyfer y mathau o welliannau y gellid eu gwneud ar hyd y coridor. Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
-
Lonydd beicio newydd
-
Llwybrau cyd-ddefnyddio newydd i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr olwynion
-
Gwell llwybrau troed ar gyfer cerddwyr
-
Gwell croesfannau i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr olwynion
-
Nodweddion i helpu i arafu cyflymdra traffig a chreu llwybr mwy diogel i bawb
Mae’r gwaith a wnaed hyd yn hyn yn y camau cynnar, a bydd cyfle i newid y cynigion ar ôl ystyried y sylwadau a geir fel rhan o’r ymgysylltiad hwn. Bydd sylwadau a geir yn cael eu defnyddio i ddatblygu’r dyluniadau ymhellach felly byddwn yn gwerthfawrogi sylwadau cadarnhaol (agweddau da ar y cynllun) ac adeiladol (unrhyw elfennau y gallech fod yn poeni amdanyn nhw).
Byddai’r holl welliannau yn destun dylunio ac ymgynghori pellach ar ôl cwblhau’r cynlluniau dylunio. Bydd angen cael y cyllid a’r caniatâd cynllunio perthnasol cyn y gellir gweithredu unrhyw newidiadau i’r ffyrdd a’r llwybrau troed. Fodd bynnag, yn amodol ar sylwadau’r gymuned, mae Cyngor Gwynedd yn gobeithio adeiladu’r gyfres gyntaf o welliannau er mwyn bod yn barod i’w defnyddio eleni.
Y Cyd-destun Ehangach
Mae’r prosiect hwn yn rhan o’r gwaith ehangach y mae Cyngor Gwynedd yn ei wneud ar gyfer cerdded, beicio a defnyddio olwynion. Mae’r gwaith hwn yn adlewyrchu ymrwymiad cyffredinol Llywodraeth Cymru i annog, cefnogi a hyrwyddo teithio llesol ar gyfer teithiau lleol. Mae hefyd yn cysylltu cynlluniau ehangach i wella Gorsaf Drenau Bangor a’r nod yw helpu i annog pobl i gyrraedd yr orsaf drenau drwy ddulliau llesol.
Trwy ddarparu gwella darpariaethau teithio llesol, a datblygu rhwydwaith o lwybrau ar draws Bangor, nod Cyngor Gwynedd yw ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i bobl sydd eisoes yn cerdded, beicio a defnyddio olwynion ac, yn bwysig, annog mwy o bobl i adael y car gartref ar gyfer teithiau lleol byr. Yng nghyd-destun newid hinsawdd ac argyfwng ecolegol, mae hyn yn bwysicach nag erioed.