Cynllun adfywio trefol Blaenau Ffestiniog
Mae’r cynllun wedi cefnogi 13 busnes i ddatblygu a gwella edrychiad “blaen siop” ac mae newidiadau sylweddol wedi ei gwneud i ganol y dref yn ei sgil. Cafodd y toiledau ei uwchraddio yn 2013 a chafwyd ymgyrch farchnata lwyddiannus iawn o’r enw “Blaenau Ffestiniog – O’r Graig.”
Mae’r cynllun wedi ennill sawl gwobr genedlaethol am waith Peirianneg Sifil a Rheolaeth Prosiect. Roedd y prosiect hefyd yn flaengar iawn o ran sicrhau Buddion Cymdeithasol gan ddod a manteision sylweddol i’r trigolion lleol.
Cefndir y prosiect
Bwriad cynllun Adfywio Trefol Blaenau Ffestiniog oedd rhoi Blaenau’n ôl ar y map, a gwneud yn siŵr fod y dref yn lle braf i fyw, gweithio ac ymweld â hi.
Bwriad y cynllun oedd gwarchod diwylliant a threftadaeth y dref, a gwneud yn fawr o’i photensial drwy gefnogi ei hasedau unigryw, sef ei phobl, iaith a’i thirwedd.
Roedd y cynllun yn canolbwyntio ar:
- greu amgylchedd addas i gynnal a chefnogi busnesau’r dref
- arwain at dwf cynaliadwy a buddsoddi yn y dyfodol
- cyfrannu at greu cyrchfan ymwelwyr o safon
- cysylltu atyniadau allweddol y dref gyda’r ardal gyfagos.
Pwrps y cynllun oedd "creu lle i fyw, i weithio ac i ymweld â hi sy’n gyffrous, bywiog a deniadol, sy’n enwog am ddiwylliant a chelfyddyd[...]." Bydd y dref yn gwneud yn fawr o'i nodweddion unigryw i sicrhau hwb ecomoaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.
Cysylltu â ni
Am fwy o wybodaeth am y cynllun, cysylltwch â'r Swyddog Adfywio Cyngor Gwynedd ar 01286 679391 neu adfywio@gwynedd.llyw.cymru