Academi Hwylio a Chanolfan Ddigwyddiadau Pwllheli (Plas Heli)
Cefndir y prosiect
Bu i £8.9 miliwn gael ei sicrhau er mwyn cynnig mwy o weithgareddau awyr agored yng Ngwynedd a rhoi hwb i’r economi lleol.
Derbyniodd Cynllun Academi Hwylio Genedlaethol Cymru a Chanolfan Ddigwyddiadau Pwllheli gefnogaeth ariannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd. Roedd hyn yn cynnwys tua £4 miliwn o raglen Cydgyfeiriant yr Undeb Ewropeaidd ac o Gronfa Arian Cyfatebol Targed Llywodraeth Cymru.
Datblygwyd y cynllun ym Mhwllheli er mwyn cefnogi y diwydiant hamdden a morol drwy:
- gynnig darpariaeth ar gyfer cystadlaethau hwylio o safon
- datblygu’r ardal i fod yn gyrchfan ar gyfer hwylwyr gorau’r byd
- agor y drws i hwylwyr newydd, yn cynnig cyfleodd i fwy o bobl ddatblygu sgiliau gweithgareddau awyr agored ac yn adnodd i’r gymuned gyfan
- gynnig canolfan i gynnal gweithgareddau cymunedol ehangach yn y dref
Drwy gydol y cynllun bu i Gyngor Gwynedd weithio mewn partneriaeth gyda Plas Heli, Clwb Hwylio Pwllheli; Llywodraeth Cymru; Chwaraeon Dŵr Gogledd Cymru; Plas Menai; Coleg Llandrillo (Cymru), Cymdeithas Hwylio Cymru a'r gymuned ehangach i ddatblygu’r academi a’r ganolfan weithgareddau.
Cysylltu â ni:
Am unrhyw wybodaeth ynglŷn a chyfleusterau, digwyddiadau a chystadlaethau dilynwch y linc i safle we Plas Heli. Plas Heli - Adra