Adolygiad ardrethi busnes yng Nghymru

Mae’ch barn o bwys!

Mae’r cwmni ymchwil Alma Economics wedi cael ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o ryddhad ardrethi busnes.

Nod yr adolygiad hwn yw deall effeithiolrwydd y cymorth ariannol presennol a gynigir i dalwyr ardrethi er mwyn llywio sut gall y pecyn presennol o ryddhad cael ei diwygio yn y dyfodol.

Mae Alma Economics eisiau cynrychioli barn a safbwyntiau trethdalwyr yn yr adolygiad trwy gyfres o grwpiau ffocws ar-lein ym mis Ionawr. Os oes gennych farn ar y rhyddhadau ardrethi busnes presennol, mae hwn yn gyfle gwych i fynegi’ch barn!

 

Rhoi eich barn: 

 Ffurflen mynegi diddordeb

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r cyfeiriad e-bost sydd tu fewn y ffurflen.