Bydd pob rhan o’r DG yn cael rhywfaint o’r cyllid, ac mae cyfanswm o £126.46 miliwn wedi'i ddyrannu i Ranbarth Gogledd Cymru sy’n cynnwys y siroedd Wrecsam, Fflint, Dinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn. Mae'r cyfanswm yn cynnwys £15.24 miliwn y mae'n rhaid ei ddefnyddio i gefnogi rhifedd oedolion (y rhaglen Lluosi).
Y dyraniad ar gyfer Gwynedd yw £24,423,747, ac mae £2,942,620 o'r cyfanswm wedi ei warchod ar gyfer y rhaglen Lluosi.
Cyflawni’r Gronfa yng Ngwynedd
Er mwyn lleihau costau a chymhlethdod, mae Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru yn gweithio gyda'u gilydd i weinyddu’r Gronfa.
Yn ystod Ionawr a Chwefror 2023 roedd cyfle i unrhyw sefydliad yn dymuno cael dros £250,000 o arian SPF gyflwyno cais amlinellol. Yng Ngwynedd derbyniwyd 114 o geisiadau gan gynlluniau yn gofyn am dros £51 miliwn o arian SPF. Ar sail asesiad o’r ceisiadau, a sylwadau Grŵp Ymgynghorol Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd, ym mis Mai 2023 dewisodd Cyngor Gwynedd wahodd 47 o gynlluniau i gyflwyno cais manwl am arian.
Ni ragwelir y bydd cyfle eto i gyflwyno ceisiadau eto am dros £250,000 o arian SPF yng Ngwynedd.
Yn dilyn derbyn ac asesu’r ceisiadau manwl yn drylwyr, ar 20 Gorffennaf, 2023 cytunodd Cabinet Cyngor Gwynedd gynnig £21.96 miliwn o arian SPF Gwynedd i 39 cynllun. Gweld Rhaglen y Cabinet.