Rhaglenni buddsoddi ffyniant bro a chymunedol Llywodraeth y DU

Fel rhan o’i agenda ffyniant bro (fel y amlinellwyd yn y Papur Gwyn Ffyniant Bro), mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi pedair rhaglen buddsoddi hyd yn hyn. 

Mae’r rhaglenni yma yn cymryd lle’r Cronfeydd Ewropeaidd oedd ar gael yn flaenorol yng Nghymru ac wedi’u gweinyddu gan Lywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth DU hefyd wedi cyflwyno Bil Ffyniant Bro ac Adfywio (Saesneg yn unig) yn senedd y DU. 

Cyflwynir rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r rhaglenni buddsoddi isod.

DIWEDDARAF: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU – Bydd bob prosiect wedi eu cwblhau erbyn 31 Mawrth 2025.

Close

 

Bydd y Gronfa Ffyniant Bro yn weithredol tan Mawrth 2025 ac yn buddsoddi £4.8 biliwn ar draws y DU. 

Mae’r gronfa yn cyllido prosiectau cyfalaf mawr a bydd yn cefnogi: 

  • adfywio canol trefi a’r stryd fawr (hyd at £20 miliwn)
  • asedau diwylliannol a threftadaeth (hyd at £20 miliwn) 
  • prosiectau trafnidiaeth leol (hyd at £50 miliwn) 

Dim ond awdurdodau lleol all gyflwyno cais i’r Gronfa

Gall ardaloedd cyflwyno un cais ar gyfer pob Etholaeth Seneddol o fewn eu ffiniau ac un cais trafnidiaeth leol.  Gall Cyngor Gwynedd felly gyflwyno hyd at dri chais. 

Cynhaliwyd rownd gyntaf y Gronfa Ffyniant Bro yn 2021.  Nid oedd unrhyw geisiadau o Wynedd yn llwyddiannus. 

Cyflwynodd Cyngor Gwynedd 3 cais i ail rownd Cronfa Ffyniant Bro mis Awst 2022. 

  • Bywiogi Bangor – pecyn o gynlluniau yn cynnwys datblygiad Canolfan Iechyd a Lles, gwelliannau amgylcheddol i Bae Hirael, gwella cysylltedd oddi fewn i’r Ddinas a gwedd gyntaf o Ysgol Feddygol Gogledd Cymru. Cynllun yn cyplysu ymyraethau yn gysylltiedig a iechyd a lles tra yn adfywio canol y ddinas.    
  • Coridor Gwyrdd Ardudwy - pecyn yn cynnwys adeiladu ffordd newydd i osgoi pentref Llanbedr, chreu mynediad newydd i’r maes awyr presennol yn ogystal â chyflwyno gwelliannau ehangach i’r ddarpariaeth cerdded a beicio, safleoedd bws a gwasanaeth gwefru ceir trydanol ar hyd coridor y A496 yn ardal Ardudwy
  • Llewyrch o’r Llechi 2023 – Pecyn o gynlluniau ar draws 3 o gymunedau y dyffrynnoedd llechi Gwynedd sydd yn adnabod cyfleon i uchafu ar y buddion i’r gymuned leol a’r economi yn sgil dynodiad Safle Treftadaeth y Byd yn ôl yn 2021. Cynllun sydd yn cynnig cyfleoedd a datblygiadau sydd yn cyfrannu tuag at adfywio y cymunedau hyn. Pecyn penodol yn canolbwyntio ar gynlluniau yn Ogwen, Peris a Ffestiniog. 

Bu i Lywodraeth Prydain yn Ionawr gyhoeddi’r cynlluniau llwyddiannus ar gyfer ail rownd Cronfa Ffyniant Bro. Derbyniwyd cadarnhad fod Llewyrch o’r Llechi yn llwyddiannus gyda buddsoddiad o £18.8m drwy Gronfa Ffyniant Bro tuag at becyn cyflawn werth tua £27m.

Mwy o wybodaeth am y Gronfa Ffyniant Bro  

Bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DG yn darparu £2.6 biliwn ar draws y DU erbyn Mawrth 2025.  Dyrannwyd £24.4 miliwn i Wynedd ar gyfer y cyfnod hyd at Mawrth 2025, gyda £4.2 miliwn o’r dyraniad wedi ei warchod ar gyfer codi lefelau rhifedd ymhlith oedolion - Lluosi.

Mae’r ffenestr ymgeisio bellach ar gau.

Mae Cyngor Gwynedd, gyda help partneriaid lleol, wedi dewis 39 prosiect o bob cwr o Wynedd i dderbyn arian yn uniongyrchol o ddyraniad y sir.

Mae 29 o’r prosiectau yn gweithredu yng Ngwynedd yn unig, a 10 prosiect yn gweithredu ar draws ardal ehangach. 

Mae’r dosbarthiad cynlluniau rhwng blaenoriaethau buddsoddi’r SPF fel a ganlyn: 

  • Cymuned a Lle: £12.27 miliwn i 18 prosiect
  • Cefnogi Busnes Lleol: £5.16 miliwn i 12 prosiect
  • Pobl a Sgiliau£4.53 miliwn i 9 prosiect (yn cynnwys £1.28 miliwn o arian Lluosi)

Mwy o wybodaeth am Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd

 

Mae'r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol (COF) ar gyfer cymunedau ledled y DU i'w helpu i gymryd perchnogaeth ar asedau sydd mewn perygl o gael eu cau. Bydd yn para tan fis Mawrth 2025.

Gall grwpiau cymunedol a gwirfoddol ymgeisio am arian i brynu a/neu adnewyddu asedau a chyfleusterau sydd i’w rhedeg er lles y gymuned leol.  

Dylai unrhyw grŵp sydd am ymgeisio am arian lenwi ffurflen Datganiad o Ddiddordeb yn y lle cyntaf, ac yna fe wahoddir y prosiectau sy’n pasio’r meini prawf i gyflwyno cais llawn.   

Rownd 4 yw rownd derfynol y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol. Bydd dwy ffenestr ymgeisio yn Rownd 4 i ddyrannu gweddill yr arian.
Mae’r ffenestr ymgeisio gyntaf o Rownd 4 ar agor rhwng 25 Mawrth 2024 a 10 Ebrill 2024. Bydd yr ail ffenestr ymgeisio yn agor ddiwedd Mai.

Mwy o wybodaeth am y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol a ffurflen Datganiad o Ddiddordeb 

Cymorth i ymgeisio

Yn 2021, darparodd Llywodraeth y DU £200 miliwn ar draws y DU fel mesur interim cyn cyhoeddi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. 

Cyflwynwyd ceisiadau i Lywodraeth y DU trwy law Cyngor Gwynedd, yn dilyn galwad agored a phroses blaenoriaethu. 

Roedd naw cais o Wynedd yn llwyddiannus gan sicrhau £2.61 miliwn. Rhaid i bob prosiect fod wedi cwblhau cyn 31 Rhagfyr 2022. 

Gweld mwy o wybodaeth am brosiectau lleol 

ac

Mwy o wybodaeth am y Gronfa Adfywio Cymunedol 


Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch: FfyniantBroDU@gwynedd.llyw.cymru

 

Ffyniant Bro