Chwarel Cyf

Llwyddodd Chwarel Cyf, cwmni cynhyrchu teledu annibynnol arobryn sydd wedi'i leoli yng Nghricieth, i sicrhau grant ARFOR gwerth £40,155.11. Gyda phortffolio cynyddol o gynyrchiadau llwyddiannus, gan gynnwys BAFTA, RTS, a Great House Giveaway a fersiwn Gymraeg Gogglebox ar S4C, mae Chwarel wedi gweld twf cyflym yn y blynyddoedd diwethaf.

Er mwyn cefnogi'r momentwm hwn, gyda chefnogaeth grant ARFOR, creodd Chwarel ddwy rôl newydd fel rhan o ddatblygiad parhaus y cwmni. Mae'r swyddi hyn yn cynnig cyfleoedd dysgu a gyrfa gwerthfawr yn benodol i siaradwyr Cymraeg, gan gryfhau ymrwymiad y cwmni i hyrwyddo a defnyddio'r Gymraeg yn y diwydiant creadigol.

Mae'r cyllid wedi galluogi Chwarel i ehangu ei gapasiti a datblygu fformatau newydd a chyffrous. Mae hefyd wedi caniatáu iddynt barhau i ddarparu cynnwys o ansawdd uchel wrth feithrin y genhedlaeth nesaf o dalent sy'n siarad Cymraeg o fewn y sector cynhyrchu teledu.

“Mae derbyn y grant yma yn golygu bod y cwmni wedi gallu goroesi ar ôl COVID a'n galluogi i fynd o nerth i nerth ac adeiladu ar ennill BAFTA Prydeinig am eu cynhyrchiad o - Great House Giveaway” – Sioned Wyn Morus – Perchennog Chwarel Cyf.