Gisda
Mae Gisda, elusen o Gaernarfon sy'n cefnogi pobl ifanc sy'n agored i niwed, wedi derbyn grant o £75,000 gan raglen ARFOR i wella ei darpariaeth Gymraeg a datblygiad staff.
Mae'r cyllid wedi galluogi Gisda i gyflogi Arweinydd Recriwtio a Hyfforddi i wella cadw staff, darparu hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg, a gweithredu Fframwaith Iaith Gymraeg i sicrhau bod yr holl wasanaethau'n gweithredu'n ddwyieithog.
Mae'r rôl hefyd yn cefnogi creu hyfforddiant, cyfleoedd swyddi a gweithgareddau newydd i bobl ifanc. Mae'r grant wedi cefnogi ailfrandio caffi Gisda, Lle Ni, gan sicrhau bod ei ddelwedd a'i wasanaeth yn parhau'n Gymreig, gan roi'r hyder i bobl ifanc gael gafael ar gymorth a chymryd rhan mewn gweithgareddau yn eu dewis iaith.
Dywedodd Elizabeth George, Pennaeth Busnes GISDA: "Mae'r grant hwn wedi galluogi Gisda i adeiladu ar ein gwasanaeth cyfannol, gan sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cael gafael ar gymorth yn eu dewis iaith. Mae hefyd yn helpu i gynnal hunaniaeth Gymreig gref ar draws ein hybiau, gan gynnig cyfleoedd gwaith a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg."
Mae'r buddsoddiad hwn yn cryfhau ymrwymiad GISDA i hyrwyddo'r Gymraeg wrth greu amgylchedd sy'n gyfoethog yn ddiwylliannol i staff a defnyddwyr gwasanaeth.