Astudiaeth Achos Cwrw Tŷ Mo
Busnes: Cwrw Tŷ Mo
Lleoliad: Bethesda
Swm y grant: £12,912.00
Roedd derbyn grant o £12,912 gan Gronfa Sbarduno Cyngor Gwynedd yn hanfodol i alluogi Cwrw Tŷ Mo i symud ei weithrediadau bragu i leoliad parhaol ac agor bar ar Stryd Fawr Bethesda, gan helpu'r busnes i dyfu a sefydlu ei hun fel ffefryn lleol.
I’r perchennog, Morgan Vallely, roedd y grant yn ei gwneud hi'n bosibl i gefnogi tyfu’r busnes yn gyflym trwy ariannu'r offer bragu a gweini cwrw angenrheidiol.
"Rwy'n gwerthfawrogi'r Gronfa Sbarduno yn fawr gan ei fod wedi fy helpu i ddatblygu'r bragdy, yn ogystal â gallu arddangos mwy o gynhyrchion i gwsmeriaid sy'n ymweld â'r bar," meddai Morgan.
Yn ogystal â chreu cwrw o safon uchel, mae Morgan wedi ymrwymo i ddathlu'r Gymraeg. Mae gan bob cwrw enw Cymraeg unigryw wedi'i ysbrydoli gan chwedlau lleol ac mae'n cynnwys dyluniadau trawiadol gan artist lleol, gan greu profiad sy'n hwyl i gwsmeriaid ac yn dathlu cyfoeth ein ddiwylliant.
