DE Williams Electrical
Enw Busnes: DE Williams Electrical
Lleoliad: Chwilog
Swm y grant: £3,376.80
Derbyniodd DE Williams Electrical grant o £3,376 gan Gronfa Sbarduno Cyngor Gwynedd i ddylunio gwefan ddwyieithog newydd, prynu profwr solar PV a chael Ardystiad MCS.
Galluogodd y grant i DE Williams Electrical ehangu’r gwasanaeth y mae’n ei gynnig, yn enwedig trwy ymuno â'r sector ynni adnewyddadwy. Roedd prynu profwr solar PV a chael ardystiad proffesiynol yn caniatáu i'r cwmni fanteisio ar y galw cynyddol am osodiadau ynni solar gan sefydlu DE Williams Electrical fel cwmni blaengar mewn diwydiant sy'n ehangu'n gyflym.
Mae'r wefan ddwyieithog newydd wedi ei gwneud yn haws i gwsmeriaid gael mynediad at wasanaethau, gan gynyddu ymgysylltiad a boddhad cwsmeriaid. Yn ogystal, mae'n sicrhau fod cynulleidfa leol ehangach yn cael mynediad i’r busnes, sy’n adlewyrchu ymrwymiad y cwmni i gynnwys pawb.
Mae'r grant wedi helpu DE Williams Electrical i fanteisio ar gyfleoedd a ddaw i'r amlwg, gan gynyddu gweithgarwch busnes gyda'r potensial i greu swyddi lleol yn y sector ynni gwyrdd a thrwy hynny sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y cwmni. At ei gilydd, mae'r grant wedi bod yn gatalydd ar gyfer twf, gan alluogi DE Williams Electrical i ehangu ei wasanaethau a chyrraedd cynulleidfa ehangach.
"Mae'r grant yma wir wedi helpu'r cwmni i ddatblygu a thyfu ac ni fyddai wedi bod yn bosib hebddo. " Dafydd Williams, DE Williams Electrical.