Highlife Rope Access Ltd
Enw’r Busnes: Highlife Rope Access Ltd
Lleoliad: Bethesda
Swm y grant: £10,264.59
I Highlife Rope Access Ltd, mae derbyn £10,264.59 gan Gronfa Datblygu Busnes Cyngor Gwynedd wedi bod yn allweddol wrth drawsnewid gallu'r cwmni i dyfu. Gan arbenigo mewn datrysiadau gweithio ar uchder, mae'r cyllid wedi caniatáu i'r busnes ehangu ei wasanaethau mynediad rhaff a chyflawni prosiectau ar raddfa fwy, gan gynyddu capasiti’r busnes.
Mae'r grant hefyd wedi galluogi'r cwmni i lansio rhaglen brentisiaeth yn gynt na'r disgwyl, gan fynd i'r afael â bwlch sgiliau critigol yn y sector adfer treftadaeth. Mae'r fenter hon nid yn unig yn sicrhau dyfodol technegau mynediad rhaff arbenigol ond hefyd yn trosglwyddo arbenigedd hanfodol wrth warchod adeiladau hanesyddol. Yn ogystal, mae'r cyllid wedi galluogi Highlife i fuddsoddi mewn hyfforddiant gan gadw prosiectau adfer treftadaeth yn fwy hygyrch a fforddiadwy.
"Mae derbyn y grant wedi agor llawer o ddrysau gyda buddion mawr i randdeiliaid adeiladau hynafol," meddai Alex Haslehurst, Rheolwr Gyfarwyddwr a Pherchennog y cwmni.