Inigo Jones & Co Ltd
Lleoliad: Y Groeslon
Swm y Grant: £22,683.50
Mae Inigo Jones & Co Ltd, gwneuthurwr cynhyrchion llechi, wedi derbyn grant o £22,683.50 i gefnogi'r gwaith o brynu peiriant engrafiad laser. Mae'r buddsoddiad hwn yn nodi gwelliant sylweddol i alluoedd cynhyrchu’r cwmni, gan ganiatáu iddo gwrdd â'r galw cynyddol gan gwsmeriaid am engrafiadau cymhleth.
Yn flaenorol, roedd y cwmni yn dibynnu ar beiriant engrafiad CNC yn unig, a oedd â chyfyngiadau wrth gynhyrchu llythrennau bach wedi'u hysgythru a logos cymhleth. Drwy ychwanegu'r peiriant laser, gall Inigo Jones & Co Ltd bellach gynnig lefel uwch o fanylder a manwl gywirdeb, gan ehangu ei ystod o gynnyrch a gwella effeithlonrwydd. Roedd y cyllid yn hanfodol i wneud yr uwchraddiad hwn yn bosibl.
Heb y grant, ni fyddai'r cwmni wedi bwrw ymlaen â'r pryniant. Mae'r gefnogaeth hon yn galluogi Inigo Jones & Co Ltd i barhau i fod yn gystadleuol, gwella boddhad cwsmeriaid, ac archwilio cyfleoedd newydd i'r farchnad.