ML Hughes Construction

Lleoliad: Bangor

Swm y grant: £10,500

Mae ML Hughes Construction Ltd wedi derbyn Grant Cronfa Sbarduno o £10,500 i gefnogi ei gynlluniau ehangu ac arallgyfeirio. Bydd y grant yn chwarae rhan ganolog wrth wneud y safle newydd yn fwy gweithredol, a fydd yn galluogi'r cwmni i gynyddu ei weithrediadau.

Defnyddiwyd yr arian i gaffael a gosod cabanau cludadwy gwrth-fandaliaeth i ddarparu gofod swyddfa, cyfleusterau ffreutur a thoiledau newydd yn ogystal â lle storio offer, peiriannau bach, a deunyddiau adeiladu.

Bydd y trosglwyddiad esmwyth hwn i safle newydd yn hwyluso twf y cwmni, gan arwain o bosibl at gynyddu capasiti cynhyrchu, creu cyfleoedd cyflogaeth lleol a chyfrannu at ddatblygiad economaidd yr ardal, gan sicrhau effaith gadarnhaol ar y gweithlu lleol a'r gymuned ehangach.

"Mae derbyn y grant yma wedi helpu i hybu morâl gweithwyr, mae gennym ni gyfleusterau gwell erbyn hyn, ac mae'r cwmni wedi gallu tyfu a chyflogi mwy o weithwyr." – Ken Hughes, Perchennog.