Protec Physio
Enw Busnes: Protec Physio
Lleoliad: Llanwnda
Swm y grant: £8,415.37
Mae derbyn grant o £8,415.37 gan Gronfa Datblygu Busnes Cyngor Gwynedd wedi galluogi Protec Physio, darparwr gwasanaethau gofal iechyd dibynadwy yn Llanwnda ers bron i 30 mlynedd, i gyflwyno gwasanaeth newydd a chyffrous gyda dosbarthiadau Reformer Pilates.
Mae'r cyllid hwn wedi caniatáu i'r busnes arallgyfeirio ei wasanaethau, gan roi mynediad i drigolion Gwynedd at weithgaredd lles unigryw nad oedd ar gael yn lleol o'r blaen. Trwy ychwanegu Reformer Pilates at eu hamrywiaeth o wasanaethau, mae Protec Physio yn helpu'r gymuned i ddefnyddio atebion iechyd arloesol ac yn cynnig mwy o gyfleoedd i breswylwyr gadw'n actif ac yn iach.
Mae'r grant yn nodi cyfnod twf cyffrous i Protec Physio ac yn cefnogi ymrwymiad y busnes i ddarparu opsiynau gofal iechyd amrywiol, o ansawdd uchel i Ogledd Cymru.
"Mae'r grant yma wedi golygu bod y cwmni yn gallu cynnig gwasanaeth unigryw i'r ardal sydd o fudd i'r trigolion lleol," meddai Fflur Roberts, Perchennog a Chyfarwyddwr y cwmni.