Salty Dog Design

Lleoliad: Tywyn

Swm y grant: £3,105.00

 Fe wnaeth derbyn Grant Datblygu Busnes Cyngor Gwynedd alluogi Jack Iffla i wireddu ei syniad busnes trwy lansio Salty Dog Design, busnes dylunio gwefannau, e-fasnach a brandio. "Fe wnaeth y grant fy helpu i sefydlu'r busnes - yn syml, ni fyddai wedi bod yn bosib hebddo," meddai Jack.

Diolch i'r grant, llwyddodd Jack i fuddsoddi mewn offer hanfodol a dodrefn swyddfa, gan gynnwys cyfrifiadur a chamera. Roedd yr eitemau hyn yn allweddol i greu gweithle proffesiynol, adeiladu portffolio o waith, a denu cleientiaid newydd.

Mae Salty Dog Design wedi dechrau sefydlu ei hun yn gyflym yn y diwydiant, gan ddarparu ystod o brosiectau ac adeiladu sylfaen cleientiaid sy'n tyfu. Wrth edrych ymlaen, mae Jack yn bwriadu ehangu ymhellach, gydag uchelgais i recriwtio staff ychwanegol yn 2026 wrth i'r busnes barhau i dyfu.