Scrubadub Cleaning

Lleoliad: Tywyn

Swm y grant: £10,093.04

Cafodd Scrubadub Cleaning grant o £10,093 gan Gronfa Sbarduno Cyngor Gwynedd i brynu peiriannau sychu dillad nwy gradd fasnachol. Cyn derbyn y grant, roedd Scrubadub yn cael trafferth gyda sychwyr dillad trydan domestig hen ffasiwn oedd yn aneffeithlon, yn gostus, ac yn methu â chadw i fyny â'r galw cynyddol.

Roedd y peiriannau hyn yn defnyddio gormod o drydan, gan gyfrannu at gostau gweithredu uwch. Oherwydd cyfyngiadau capasiti, nid oedd y busnes yn gallu ymgymryd â chontractau newydd, gan lesteirio ei botensial i dyfu. Mae prynu peiriannau sychu dillad nwy masnachol, sy'n fwy effeithlon o ran ynni ac sy'n gallu ymdrin gyda niferoedd uwch, wedi caniatáu i'r cwmni weithredu'n fwy effeithiol.

Mae'r offer newydd wedi cynyddu cynhyrchiant, gan alluogi Scrubadub i ehangu ei sylfaen cleientiaid, sicrhau contractau newydd a chreu cyfleoedd cyflogaeth leol. Mae'r defnydd o ynni is o sychwyr nwy yn cyfrannu at gostau gweithredol is, gan wella cynaliadwyedd hirdymor y cwmni.

“Mae derbyn y grant yma wedi lleihau ôl-troed carbon y busnes, ei wneud yn fwy effeithiol a'i helpu i dyfu.” Louis Hiatt - Perchennog