Caffi Largo
Enw busnes: Caffi Largo
Lleoliad: Pwllheli
Swm y grant: £61,999.00
Derbyniodd Caffi Largo, caffi poblogaidd sy'n canolbwyntio ar y gymuned, Grant Datblygu Busnes o £61,999 i wneud gwelliannau strategol yn eu cegin, eu hardaloedd paratoi bwyd a'u cyfleusterau storio.
Mae adnewyddu cyfleusterau’r gegin wedi symleiddio prosesau cynhyrchu bwyd yn sylweddol ac mae'r caffi bellach yn gweld costau ynni is a mwy o gysondeb wrth goginio, gan sicrhau ansawdd uwch wrth baratoi bwyd ac wrth gynnig gwasanaeth, tra bod gwell effeithlonrwydd ynni yn lleihau costau gweithredol.
Mae cynyddu nifer y seddi a chyflogi aelodau staff llawn amser yn caniatáu i'r busnes weini mwy o gwsmeriaid bob dydd, gan wella boddhad cwsmeriaid a gallu’r busnes i wneud elw. At ei gilydd, mae'r buddsoddiadau hyn wedi creu gweithrediad mwy effeithlon a chost-effeithiol gan feithrin busnes sy’n fwy bywiog a gwydn ac sy'n parhau i fod yn ganolbwynt allweddol i’r gymuned.
"Mae derbyn y grant wedi golygu bod y busnes wedi tyfu a'i fod yn gynaliadwy ac yn gallu edrych ymlaen at fynd i'r lefel nesaf." Tudur Williams, Caffi Largo.
Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy