Tom James Construction
Busnes: Tom James Construction
Lleoliad: Blaenau Ffestiniog
Swm y grant: £72,932.00
Derbyniodd Tom James Construction, sydd wedi'i leoli ym Mlaenau Ffestiniog, grant datblygu busnes gwerth £72,932 i'w fuddsoddi mewn offer sy'n lleihau'r defnydd o ynni ac yn gwella rheoli gwastraff, gan arwain at gostau gweithredol is.
Wedi'i sefydlu yn 2016, mae'r busnes teuluol hwn yn arbenigo mewn adeiladu a chloddwaith ac mae'n falch o gyfrannu at yr economi leol trwy fod yn gyflogwr gweithredol yn yr ardal.
Roedd derbyn y grant yn galluogi Tom James Construction i dyfu, arloesi a dod yn fwy cynaliadwy yn ogystal â chreu cyfleoedd gwaith medrus yn lleol.
“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am y cymorth yma – mae wedi’n galluogi ni i dyfu, gan greu a diogelu swyddi yn lleol. Gyda’r offer newydd rydan ni hefyd yn gallu gwneud mwy i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd – rhywbeth sy’n bwysig i ni fel busnes” Tes James, Tom James Construction.
Gwylio y fideo i ddysgu mwy