Tŷ Afon

Lleoliad: Beddgelert

Swm y Grant: £28,754.26

Mae Tŷ Afon, llety bwtîc a lleoliad priodas, wedi derbyn Grant Trawsffurfio gwerth £28,754.26 i gefnogi uwchraddiadau hanfodol a fydd yn galluogi'r busnes i dyfu a gweithredu'n effeithlon drwy gydol y flwyddyn.

Roedd boeler presennol y lleoliad a'r system dŵr poeth wedi dyddio, gan gyfyngu ar weithrediadau a chyfyngu ar ei allu i groesawu gwesteion trwy gydol pob tymor. Heb y buddsoddiad hanfodol hwn, byddai cynlluniau Tŷ Afon ar gyfer twf wedi dod i ben. Mae'r cyllid grant yn caniatáu gosod system wresogi newydd, fodern, gan sicrhau profiad cyfforddus a di-dor i westeion tra'n lleihau costau gweithredol. Yn ogystal, mae'r grant yn cefnogi gosod lloriau pren caled newydd a seddi gwledda.

Trwy wella effeithlonrwydd a phrofiad gwesteion, bydd yr uwchraddiadau hyn yn gyrru twf, yn creu cyfleoedd cyflogaeth lleol newydd, ac yn adeiladu gwytnwch hirdymor yn erbyn newidiadau economaidd a gwleidyddol.

“Mae derbyn y grant yma wedi golygu bod y busnes yn ffynnu gydag archebion wedi cynyddu, sy'n golygu bod y busnes yn gallu bod yn agored trwy'r flwyddyn.” Emma a Regan Sloane - Perchnogion.