Hen Adeiladau Banc

Lleoliad:  Caernarfon

Swm y grant: £17,010.00

Mae Hen Adeiladau’r Banc yng Nghaernarfon wedi elwa o Grant Gwella Eiddo Canol Trefi o £17,010. Mae'r arian wedi golygu bod modd i R and I Jones Ltd gyflymu gwaith atgyweirio oedd wirioneddol angen ei wneud, yn cynnwys ailbeintio, trwsio gwaith plastr a chynnal a chadw'r to.

"Mae derbyn y grant wedi golygu bod y cwmni wedi medru bwrw ymlaen efo'r gwaith yma ynghynt," meddai Aled Roberts, Cyfarwyddwr R and I Jones Ltd.

Gan ein bod yn gyfanwerthwyr, mae'n hanfodol bod gennym adeilad diogel, ond rŵan gyda gwell estheteg ac adeilad strwythurol gadarn, gall R and I Jones ganolbwyntio ar dwf y busnes. Mae'r estheteg gwell hefyd yn cyfrannu at adfywiad ehangach canol tref Caernarfon, gan greu amgylchedd mwy deniadol i drigolion, ymwelwyr a busnesau cyfagos.

Mae'r Grant Gwella Eiddo Canol Trefi yn ceisio cefnogi busnesau bach a chanolig i adfywio eiddo mewn canol trefi. Drwy fuddsoddi mewn eiddo masnachol, mae'r fenter yn gwella ymddangosiad a hyfywedd economaidd ardaloedd trefol allweddol.