Cynllun Lleihau Gwastraff Busnesau Gwynedd
Yng Nghyngor Gwynedd, rydym wedi ymrwymo i leihau gwastraff a gwneud dewisiadau cynaliadwy yn haws i'n staff. Mae ein Cynllun Lleihau Gwastraff wedi'i gynllunio i helpu busnesau lleol i leihau deunydd pacio untro tra'n annog staff Cyngor Gwynedd i wneud dewisiadau mwy gwyrdd.
Rydym yn gofyn i fusnesau lleol gefnogi'r fenter hon i leihau gwastraff ac arbed costau drwy groesawu'r rhai sy'n dod â'u cynwysyddion ail-dro eu hunain ar gyfer prydau tecawê a diodydd poeth.
Pam ymuno?
- Torri Costau – Lleihau gwariant ar ddeunydd pacio tafladwy.
- Hwb i'ch Cymwysterau Gwyrdd – Dangoswch eich ymrwymiad i gynaliadwyedd a lleihau eich ôl troed carbon.
- Cydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol – Aros ar y blaen i reoliadau yn y dyfodol ar blastigau untro.
Sut i gymryd rhan?
Gadewch i'ch cwsmeriaid a'ch gweithwyr wybod eich bod yn croesawu cynwysyddion y gellir eu hail-ddefnyddio, gan helpu i leihau gwastraff, diogelu'r amgylchedd, a gosod esiampl i eraill yn y gymuned.
Llenwch arolwg byr drwy glicio yma a chofrestru eich busnes fel rhan o'r fenter. Byddwn yn darparu sticeri ffenestr i helpu i hyrwyddo eich cyfranogiad.
I ddysgu am ragor o fentrau #GwyneddWerdd a'n huchelgais i fod yn Sero Net ac yn ecolegol gadarnhaol erbyn 2030, cliciwch yma.