Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
Cefndir
Derbyniodd y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) Gysyniad Brenhinol a daeth yn gyfraith ar y 1 Mai 2014. Daw i rym o Ebrill 2016.
Mae’r Ddeddf yn rhoi’r fframwaith cyfreithiol i wella llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth, ac am drawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.
Amlygodd y Papur Gwyn,Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu, a gyhoeddwyd yn 2011, nifer o heriau sy’n wynebu gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.
Mae’r rhain yn cynnwys newidiadau demograffig, disgwyliadau uwch gan bobl sy’n derbyn gofal a chymorth yn ogystal â realiti’r wasgfa economaidd.
Bydd y ddeddf yn trawsnewid y ffordd mae gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu darparu, gan hyrwyddo annibyniaeth pobl i roi llais cryf a rheolaeth iddynt.
Hyfforddiant
Dyma restr o'r hyfforddiant sy'n gysylltiedig â'r Ddeddf:
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru ) – Hyfforddi’r Sefydliad