Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (RhDGGCC)
Mae tîm datblygu gweithlu gofal cymdeithasol Gwynedd yn cefnogi cyfleoedd hyfforddi a datblygu ar gyfer y sector.
Mae’r tîm yn gweinyddu Grant Partneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (RhDGGCC) er mwyn darparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu i weithlu gofal cymdeithasol yr Awdurdod yn ogystal â’r Bartneriaeth Gofal Cymdeithasol ehangach yng Ngwynedd.
Mae aelodaeth Partneriaeth RhDGGCC yn cynnwys yr awdurdod lleol, y sector annibynnol a’r trydydd sector, darparwyr gofal cymdeithasol (cartrefol a phreswyl), a phartneriaid sy’n cydweithio i gefnogi’r sector i ddatblygu gweithlu sydd â’r sgiliau a’r cymwysterau priodol i fodloni gofynion Gofal Cymdeithasol Cymru. Cynigir hyfforddiant hefyd i ofalwyr di-dâl (perthnasau neu ffrindiau sy'n gofalu am bobl gartref) a chynorthwywyr personol (sector taliadau uniongyrchol).
Rhoddir ffocws i feysydd blaenoriaeth allweddol a gefnogir fel y nodir yng Nghylchlythyr Blynyddol Gofal Cymdeithasol Cymru.
Gallwch gymryd rhan weithredol yn y gwaith o gynllunio ein rhaglen hyfforddi drwy ddychwelyd eich Dadansoddiad Anghenion Hyfforddi yn flynyddol
Yn ystod y flwyddyn efallai y bydd angen diwygio’r cynllun o ganlyniad i newidiadau i ddeddfwriaeth, polisïau neu flaenoriaethau gwasanaeth, felly o bryd i’w gilydd byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth newydd ac ychwanegol yn ymwneud â chyrsiau.
Rydym yn awyddus i glywed gennych am unrhyw anghenion hyfforddi a datblygu ychwanegol sydd gennych neu sylwadau am y ddarpariaeth
I gael mynediad i hyfforddiant neu adnoddau digidol cysylltwch caishyfforddiant@gwynedd.llyw.cymru
Rhaglen Hyfforddi Partneriaeth Gwynedd 2025-26
Rhaglen Hyfforddi Bartneriaeth Gwynedd 2025-2026
Teitl Cwrs | Nifer Sesiynau | Cyfrwng Darparu |
Atal Haint |
|
Linc digidol |
Ymwybyddiaeth Awtistiaeth |
4 |
Wyneb i wyneb |
Cymorth Cyntaf Brys |
6 |
Wyneb i wyneb |
Diogelu |
3 |
Wyneb i wyneb neu Zoom |
BTEC Hyfforddi yr Hyfforddwr Symud a Thrin |
2 |
Dysgu aml gyfrwng (ar-lein a wyneb i wyneb) |
BTEC Hyfforddi Hyfforddwr Adnewyddi |
1 |
Wyneb i wyneb |
Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl |
3 |
Wyneb i wyneb |
Arweinyddiaeth Dosturiol |
1 |
Wyneb i wyneb |
Taith Rhithiol Dementia |
2 |
Wyneb i wyneb |
Canlyniadau Positif a Diogel |
3 |
Wyneb i wyneb |
Ymwybyddiaeth Dementia |
4 |
Wyneb i wyneb |
Ymwybyddiaeth Clefyd Siwgr |
|
Linc digidol |
Ffitrwydd i Ymarfer |
2 |
Wyneb i wyneb |
Ymwybyddiaeth Epilepsi |
2 |
Wyneb i wyneb |
Ymwybyddiaeth Galluogi |
2 |
Wyneb i wyneb |
Gofal personol |
5 |
Wyneb i wyneb |
Makaton |
2 |
Wyneb i wyneb |
Makaton Lefel 2 |
1 |
Wyneb i wyneb |
Mwy na geiriau |
|
Linc digidol |
Adnoddau Dysgu Cymraeg - Cynnig Dydd Gŵyl Dewi |
1 |
Microsoft Teams |
Nam Golwg |
2 |
Wyneb i wyneb |
Parkinsons |
|
Linc digidol |
Pasport Symud a Thrin Cymru Gyfan |
4 |
Wyneb i wyneb |
Adnewyddu Pasport Symud a Thrin Cymru Gyfan |
1 |
Wyneb i wyneb |
Llesiant a Maeth |
1 |
Zoom |
Goruchwyliaeth i Reolwyr Gofal Cymdeithasol |
1 |
Wyneb i wyneb |
Sgyrsiau Anodd |
1 |
Wyneb i wyneb |
Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl |
1 |
Wyneb i wyneb |
Ymwybyddiaeth Motor Niwron |
|
Linc digidol |
Ymwybyddiaeth SY (MS) |
|
Linc digidol |
Cymorth Cyntaf Pediatrig |
3 |
Wyneb i wyneb |
Gofal personol plant |
2 |
Wyneb i wyneb |