Cyflenwad dŵr preifat
Cyflenwad dŵr sydd ddim yn cael ei ddarparu gan gwmni dŵr ydi cyflenwad dŵr preifat. Gall y cyflenwad ddod o ffrwd, ffynnon, dyfrdwll (borehole), cyflenwad o wyneb y ddaear neu ddŵr glaw wedi ei gasglu. Gall cyflenwad wasanaethu sawl eiddo neu adeiladau masnachol neu gyhoeddus.
Mae holl gyflenwadau dŵr preifat yng Nghymru yn cael eu rheoli gan Reoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017. Rydym yn monitro yn unol â rhaglen y rheoliadau:
- Cyflenwad masnachol mawr (pob cyflenwad lle mae’r dŵr yn cael ei ddefnyddio'n fasnachol neu at weithgaredd cyhoeddus a chyflenwadau domestig mawr - dros 50 o bobl): Byddwn yn monitro y cyflenwadau hyn yn rheolaidd ac yn cynnal asesiad risg pob 5 mlynedd.
- Cyflenwadau domestig bychan – (ac eithrio rhai i dai unigol) cyflenwad ond yn cyflenwi mwy nag un eiddo neu lai nag 50 o bobl. Byddwn yn cynnal asesiad risg a samplo pob 5 mlynedd.
- Cyflenwad i eiddo sengl (un eiddo yn unig): rydym yn cynnal asesiad risg a samplo ar gais y perchennog neu‘r preswyliwr.
- Holl gyflenwadau eraill, gan gynnwys cyflenwadau i dai a osodir i denant.
Cofiwch! Os ydych yn cyflenwi dŵr i eraill gyda neu heb ffi, (e.e. eiddo domestig arall, tŷ gwyliau ar osod, maes carafanau, maes pebyll ayyb), mae cyfrifoldeb arnoch i sicrhau fod y dŵr yn cydymffurfio gyda’r safon rheoli ac nad yw'r dŵr yn peryglu iechyd.
Samplo cyflenwad dŵr preifat
Os ydych angen samplo eich cyflenwad dŵr, cysylltwch â ni:
Cais ar-lein i brofi dŵr preifat
Bydd y canlyniadau yn cael eu gyrru atoch o fewn 28 diwrnod. Byddwn yn egluro'r canlyniadau a chynnig cyngor os bydd unrhyw gamau cywiro eu hangen.
Mae cyflenwadau sy'n cael eu defnyddio ar gyfer gweithgaredd masnachol, gweithgaredd cyhoeddus, cyflenwad sy'n cael ei rannu neu gyflenwad i eiddo unigol yn dibynnu ar asesiad risg pob 5 mlynedd. Bydd yr asesiad risg o’r tarddiad i’r tap.
Ffioedd
Mae'r rheoliadau yn golygu fod yr awdurdodau lleol yn gallu codi ffi ar berchnogion cyflenwadau dŵr preifat am y gweithgareddau a dyletswyddau sy'n ofynnol.
Gweld rhestr ffioedd
Adrodd pryder am gyflenwad dŵr preifat
Os ydych yn bryderus am gyflenwad dŵr preifat yng Ngwynedd, cysylltwch â ni:
Adrodd pryder ar-lein: cyflenwad dŵr preifat
Digwyddiad dros dro
I weld canllawiau ar “dŵr yfed mewn digwyddiadau dros dro ewch i wefan y Water Health Partnership
Mwy o wybodaeth
Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y daflen wybodaeth Rheoliadau Cyflenwadau dŵr preifat neu cysylltwch â ni:
Ymholiad ar-lein: cyflenwad dŵr preifat
Neu ffoniwch 01766 771000
Holiadur cyflenwad dŵr preifat
Os ydych yn defnyddio cyflenwad dŵr preifat dylech fod wedi derbyn holiadur drwy’r post. Os nad ydych wedi derbyn yr holiadur, gallwch ei lawrlwytho yma:
Dychwelwch yr holiadur i Llygredd@gwynedd.llyw.cymru
Neu: Uned Rheoli Llygredd a Thrwyddedu, Gwarchod y Cyhoedd, Swyddfa’r Cyngor, Stryd Jêl, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH
Close