Safonau Bwyd
‘Mae’r gyfraith yn cyflwyno rheolau i reoli sut mae bwyd yn cael ei baratoi, ei gyfansoddiad a’i labelu’
Yn fras:
- rhaid i’r ansawdd cwrdd â disgwyliad y cwsmer
- rhaid bod fel mae wedi’ ddisgrifio ac ni ddylai ei gyflwyno mewn ffordd a all gamarwain y cwsmer
- ni chaniateir ychwanegu na thynnu un rhywbeth a all achosi niwed i Iechyd
Dyddiad ar ei orau, dyddiad rhaid defnyddio cyn a dyddiad rhaid gwerthu cyn
- Ar ei orau cyn: Mae’r term ‘ar ei orau cyn’ yn addas ar gyfer rhan helaeth o fwydydd. Mae’n ymwneud a’r ansawdd y bwyd a beth yw’r cyfnod rhesymol i ddisgwyl i gynnyrch fod ar ei orau. Mae gan fanwerthwyr hawl i werthu bwyd ar ôl y dyddiad yma cyn belled fod y bwyd yn ddiogel i’w fwyta.
- Rhaid defnyddio cyn: Os yw bwyd yn fyrhoedlog ‘highly perishable’ yna mae rhaid labelu bwyd gyda’r term ‘ rhaid defnyddio cyn.’ Mae’r mathau yma o fwyd yn gallu rhagarwain at risg microbiolegol i’r cwsmer os yw’r bwyd yn cael ei werthu ar ôl y dyddiad yma ac felly yn fater diogelwch bwyd. Mae’n drosedd i werthu'r bwyd ar ôl y dyddiad.
- Rhaid gwerthu cyn: Gall cynnyrch gael ei labelu gyda ‘rhaid gwerthu cyn’ neu ‘arddangoswch tan’ ond nid oes unrhyw ofyn cyfreithiol am fath dermau. Prif bwrpas eu defnydd yw ar gyfer cylchdroi stoc o fewn busnes. (Mae rheolau ar wahân ar gyfer wyau).
Honiadau Bwyd
Mae’n gyffredin iawn i ddod ar draws amryw o honiadau ar fwydlenni busnesau bwyd. Yn aml mae’r honiadau yn cael eu defnyddio ar gyfer gwerthu'r cynnyrch yn atyniadol a gall fod yn arwydd o ansawdd.
Gall honiadau amrywio o gig oen a chig eidion Cymreig sydd yn cael ei ddiogelu gan statws Ewropeaidd oherwydd eu bod yn dod o ardal berthnasol i fwyd fel caws Roquefort sydd yn cael ei ddiogelu oherwydd y dull unigryw o’i wneud yn defnyddio llefrith dafad a’i aeddfedu mewn ogofau yn Ffrainc.
Gall honiadau eraill fod mewn perthynas â math arbennig o fwyd neu frand:
- brecwast sydd yn cynnwys math penodol o ffa pob
- cacen gaws sydd yn cynnwys math arbennig o wirodlyn
- bod cig yn hanu o fferm benodol
Disgrifiadau ar Fwydlen
Mae rhaid i fusnes gymryd gofal i sicrhau nad ydynt yn camarwain cwsmeriaid pan maent yn disgrifio bwyd ar eu bwydlen.
Enghreifftiau o ddisgrifiad camarweiniol mae Llywodraethau Lleol wedi darganfod
- Llysiau wedi eu fflam rostio ond mewn gwirionedd wedi eu coginio mewn popty arferol
- Peli cig ‘ wedi eu gwneud yn ffres’ wedi eu prynu gan gyfanwerthwr
- ‘Cawl cartref’ yn dod allan o becyn gyda dŵr poeth yn cael ei ychwanegu i bowdwr
Gwybodaeth Bellach
Mae llawer o wybodaeth wedi rhoi at ei gilydd gan Benaethiaid Safonau Masnach Cymru (WHoTS), sydd yn cael ei ddiweddaru yn aml ac mae'n berthnasol i lawer o fathau o fwyd ac yn benodol i fathau gwahanol o fusnesau
Gwybodaeth Bellach i fusnesau