Contractau difa pla

Mae contract difa pla yn gytundeb i ddarparu gwasanaeth atal a difa pla i fusnesau a sefydliadau. Bydd swyddog yn monitro'r safle ac yn trin unrhyw bla fel bo'r angen. 

Mae’n bosib teilwra contract i gwrdd ag anghenion unigol, a gellir llunio contract 6 mis neu flwyddyn gyfan.

Mae contract safonol yn cynnwys 4 ymweliad i ddelio â llygod (bach neu fawr), yn ogystal â 4 ailymweliad fel bo’r angen. Gellir ychwanegu at nifer yr ymweliadau ac at y math o blâu yr ydych am eu cynnwys o fewn y contract.

 

Ffioedd 2024/25

Mae’r ffioedd isod yn ganllaw a gall y pris gynyddu yn dibynnu ar faint y safle a’r mathau o blâu rydych chi’n eu cynnwys yn y contract. Bydd hyn yn cael ei gytuno gyda'r swyddog pan fydd yn mynychu'r safle. 

Contractau difa pla
 Ffi / Pris Eithrio TAWTAW / VAT @ 20% Ffi / Pris yn cynnwys TAW lle'n berthnasol 
Contract Rheoli Cnofilod Safonol (blynyddol) 
4 ymweliad  a
4 ail-ymweliad 
 £275  £55  £330
Safleoedd sy'n Perfformio'n Wael (blynyddol)
4 ymweliad a
4 ail-ymweliad
 £550  £110  £660
Contract Rheoli Cnofilod Safonol (6 mis) 
2 ymweliad a
2 ail-ymweliad
 £137.50  £27.50  £165
Safleoedd sy'n Perfformio'n Wael (6 mis)
2 ymweliad a
2 ail-ymweliad
 £275  £55  £330

 

Holi am gontract difa pla 

Gallwch holi am gontract:

  • ar-leinHoli am gontract difa pla 
    (y tro cyntaf y byddwch yn cysylltu â ni ar-lein bydd angen i chi greu cyfrif)
  • ffôn: 01766 771000  (08:30 - 17:00, Llun - Gwener)