Petroliwm
Mae angen Tystysgrif Storio Petrol pan mae petrol yn cael ei gadw er mwyn ei bwmpio yn uniongyrchol i danc petrol injan tanio fewnol neu i le sydd yn cadw swm mawr o betrol at ddefnydd preifat.
Mae ffi blynyddol yn daladwy er mwyn parhad y dystysgrif a chaiff ‘ceidwad’ y petrol ddewis talu am hyd at 10 mlynedd.
Gall cwmnïau lawrlwytho’r ffurflen gais isod a’i dychwelyd ar-lein neu drwy’r post (gyda’r ffi) i’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Ffurflen Gais
Ffioedd Tystysgrif Storio Petrol:
Costau Tystysgrif Storio Petrol
Band | Cost bob blwyddyn o dystysgrif |
Band A (hyd at 2,500L) |
£48 |
Band B (rhwng 2,500 a 50,000L) |
£65 |
Band C (mwy na 50,000L) |
£137 |
Daeth y ffioedd uchod yn effeithiol ar yr 1af o Ebrill 2024 yn unol a Rheoliadau Iechyd a Diogelwch a Niwclear (Ffioedd) (Wedi eu Diwygio) a’r Rheoliadau Diogelwch Nwy (Diwygio Amrywiol) 2024.
Gwybodaeth Bellach