Trwydded Sgip: Telerau ac Amodau
Amodau Safonol am Drwydded Sgip
Deddfwriaeth: Deddf Priffyrdd 1980 : Adran 139
1) Ffi na ellir ei ad-dalu
(i) £72 fesul sgip (misol) – cais cychwynnol
Dull Talu :
- Drwy ddefnyddio porth hunan wasanaeth a gwneud taliad gyda Cherdyn Debyd neu Gredyd.
2) Estyniad(au) i’r drwydded
(i) £72 fesul sgip (misol) – ffi na ellir ei ad-dalu
Dull Talu :
- Trwy ffonio (01766) 771000 (Galw Gwynedd) rhwng 9:00yb a 5:00yh a gwneud taliad gyda Cherdyn Debyd neu Gredyd.
3) Rhaid i’r Ymgeisydd :
(a) Cwblhau y cais o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn y dyddiad cychwyn gofynnol y drwydded.
(b) Peidio adneuo'r sgip ar y Briffordd hyd nes y byddwch wedi derbyn y drwydded.
4) Lleolir y sgip fel bod yr ochrau hirach yn gyfochrog ac ymyl y ffordd gerbydau, y droedffordd neu'r ymyl fel nad yw’n amharu ar ddraeniad arwyneb y briffordd nac yn rhwystro mynediad i unrhyw dwll archwilio neu gyfarpar unrhyw Ymgymerwr Statudol.
5) Bydd lleoliad gwirioneddol y sgip neu sgipiau yn cael ei gytuno gyda’r swyddog awdurdodedig o’r Cyngor, er mwyn sicrhau bod yr anghyfleustra lleiaf i dreigl traffig cerbydau a cherddwyr. Rhaid i’r ymgeisydd gadw at unrhyw reolaeth traffig safle benodol y mae’r awrdurdod yn ei osod, gallai unrhyw ddiffyg cydymffurfio wneud y drwydded yn annilys.
6) Bydd yr ymgeisydd yn indemnio Cyngor Gwynedd yn erbyn unrhyw atafaeliadau, gweithredoedd, achosion, hawliadau, gorchmynion, cost, iawndal a threuliau y gellir eu codi neu ei wneud yn ei erbyn oherwydd unrhyw fater a allai godi yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o ganlyniad i’r caniatâd hwn. Y lleiafswm derbynniol ar gyfer Gorchydd Atebolrwydd Cyhoedd yw £10 miliwn.
7) Nodwch, os bydd eich yswiriant atebolrwydd cyhoeddus yn dod i ben o fewn y cyfnod a gymeradwywyd y drwydded, eich cyfrifoldeb chi yw adnewyddu’r yswiriant fel ei bod yn cydfynd â’r polisi blaenorol. Bydd angen anfon copi o’r polisi newydd i Cyngor Gwynedd. Os na fyddwn yn derbyn y polisi adnewyddu, bydd y drwydded yn annilys ar ddyddiad gorffen y polisi blaenorol.
8) Bydd yr ymgeisydd yn atebol am unrhyw ddifrod i strwythur y briffordd a/neu i gyfarpar yr Ymgymerwr Statudol o ganlyniad i osod y sgip ar y briffordd a fydd yn gyfrifol am ad-dalu Cyngor Gwynedd neu ei Asiant am y costau gwirioneddol o atgyweirio unrhyw ddifrod.
9) Pan fydd mwy nag un sgip ar y briffordd ar unrhyw un adeg, bydd rhaid lleoli pob sgip mor agos â phosib i’w gilydd, ond nid mor agos i achosi rhwystr i fynediad unrhyw eiddo, onibai y bydd preswyliwr yn eiddo hwnnw yn rhoi caniatâd ysgrifenedig.
10) Ni fydd unrhyw sgip yn fwy na 5 metr o hyd wrth 2 fetr o led.
11) Bydd pob sgip neu grŵp o sgipiau tra ar y briffordd yn cael ei farcio, ei warchod a’i oleuo yn unol â’r gofynion canlynol :
(a) Rhaid paentio terfyn pob sgip (hynny yw, ochrau’r sgip sy’n wynebu’r traffig i’r ddau gyfeiriad pan fydd y sgipyn cael ei leoli, fel y crybwyllir yn Amod 3 uchod) yn felyn a chael ei farcio yn unol â gofynion Rheolau (Marcio) Sgipiau Adeiladwyr 1984. Rhaid cadw’r paent a’r marciau yn lân bob amser.
(b) Bydd ochrau bob sgip yn dangos enw, cyfeiriad neu enwa rhif ffôn llogwr y sgip, fel y gellir, mewn argyfwng, gysylltu â’r cwmni ar sail 24 awr.
(c) Rhaid gwarchod pob sgip a osodir ar y briffordd gan o leiaf 4 conau traffig mewn llinell arosgo ar ochr sy’n agos i’r sgip. Lle gosodir 2 sgip neu ragor mewn rhes, fel nad ydynt yn fwy na 2 fedr oddi wrth ei gilydd,gwarchodir y rhes fel pe bai’n un sgip yn unig
(ch) Yn ystod y nos (hynny yw rhwng hanner awr ar ôl machlud haul a hanner awr cyn codiad yr haul), gosodir lamp ambr wrth ymyl neu ynghlwm i bob cornel o’r sgip, neu i gornel rhes y sgip lle mae dau neu fwy o sgipiau wedi ei gosod, heb fod ymhellach na 2 fedr oddi wrth eigilydd, a hefyd cael eu gosod rhwng y conau traffig. Bydd pob lamp gyda phŵer golau fydd ddim llai na 1 ‘candela’ a bydd yn parhau i oleuo drwy’r nos.
12) Ni chaiff yr un sgip, tra bo’n sefyll ar y briffordd gynnwys unrhyw ddeunydd fflamadwy, ffrwydrol, gwenwynig neu beryglus, neu unrhyw ddeunydd sy’n debygol o buro neu fel arall yn debygol o fod yn niwsans i ddefnyddwyr y briffordd.
13) Ni fydd unrhyw sgip yn cael ei ddefnyddio yn y fath fodd fel bod ei gynnwys yn disgyn ar y briffordd neu fod yna ddihangfa llwch yn dod o gynnwys y sgip wrth sefyll ar y briffordd.
14) Symudir pob sgip sydd angen ei wagio cyn gynted ag y bo’n ymarferol ac mewn unrhyw achos heb fod yn hwyrach na 2 ddiwrnod gwaith ar ôl iddo gael ei lenwi.
15) Ni chaiff yr un sgip aros ar y briffordd ar ôl y cyfnod a bennir ar y drwydded. Anfonir anfoneb am y ffi na ellir ad-dalu o £72, ynghyd â £125 ychwanegol (bob mis) ar gyfer pob sgip unigol sydd heb trwydded.
16) Bydd yr holl ddeunydd a roddir ym mhob sgip gael ei wareduyn gywir, a dylid cadw’r briffordd lle mae’r sgip neu sgipiau wedi cael ei/eu lleoli mewn cyflwr glan a thaclus pan ddaw’r caniatâd hwn i ben.
17) Gall yr awdurdod priffyrdd neu gwnstabl mewn iwnifform gofyn i'r perchennog y sgip i dynnu neu ail-leoli neu beri i dynnu neu ail-leoli. Gall unrhyw gostau rhesymol sydd yn gysylltiedig â symud neu ail-leoli sgip cael ei adennill oddiwrth berchennog y sgip.
18) Ni ddylid lleoli sgip o fewn 15m o unrhyw gyffordd oni bai eifod wedi’i gymeradwyo gan swyddog awdurdodedig y Cyngor. Os bydd yn rhaid lleoli’r sgip o flaen eiddo arall yna dylid wneud pob ymdrech i hysbysu’r person yr effeithir arno.
19) Gall Cyngor Gwynedd nodi unrhyw amodau perthnasol eraill sy’n ymwneud â lleoliad y sgip yn ôl yr angen.