Triniaethau tyllu croen

Trefn trwyddedu newydd: Triniaethau tyllu croen 

Mae'r trefniadau ar gyfer cofrestru eiddo ac unigolion sydd yn cynnal triniaethau tyllu croen yng Nghymru yn newid. O ddiwedd mis Tachwedd bydd angen tystysgrif safle a thrwydded unigolion i ymgymryd â'r gwaith hwn.

Bydd y cynllun trwyddedu newydd yn ei gwneud yn ofynnol i ymarferwyr sy'n perfformio unrhyw driniaeth arbennig (aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis a/neu datŵio) ar rywun arall yng Nghymru gael trwydded. Bydd y drwydded yn nodi pa driniaeth(au) arbennig y mae'r ymarferydd wedi ei drwyddedu i ymarfer, yn ogystal â rhestru'r eiddo / cerbyd  mae'r ymarferydd yn gweithredu ohono. Rhaid i bob ymarferydd gael ei drwydded ei hun. Gall ymarferwyr trwyddedig  ond gweithredu mewn eiddo/cerbydau sydd â thystysgrif gymeradwyo o dan y cynllun newydd yn unig.

Bydd yn ofynnol i ymarferwyr newydd ar rai sydd wedi cofrestru eisoes dan ofynion presennol Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 wneud cais am eu trwydded triniaeth arbennig eu hunain ac, os oes angen, tystysgrif cymeradwyo eiddo/cerbyd.

Bydd gofyn i'r rhai sy'n gyfrifol am eiddo / cerbydau wneud cais am dystysgrif cymeradwyaeth.


Bydd trwydded drosiannol/tystysgrif cymeradwyo yn cael ei roi i bob eiddo ac ymarferwr cofrestredig presennol, ni fydd rhaid gwneud cais am hyn.
Bydd y drwydded drosiannol hon yn caniatáu i ymarferwyr presennol barhau i berfformio triniaethau arbennig (yn unol â'u dogfen gofrestru gyfredol), tra bod y cais newydd am drwydded yn cael ei gyflwyno.

Rhaid gwneud cais am drwydded o dan y cynllun newydd oddi fewn 3 mis o’r drefn newydd  ddod yn weithredol (29 o Dachwedd 2024) - erbyn 28 Chwefror 2025.

 

Gwneud Cais am drwydded Ymarferydd (gweithdrefnau arbennig)

Rhaid cyflwyno ceisiadau am drwydded ymarferydd (gweithdrefnau arbennig) i Gyngor Gwynedd gan ddefnyddio'r ffurflen gais canlynol a chynnwys dogfennau ategol a ffi.

Ffurflen gais am drwydded Ymarferydd

Dogfennau cefnogol ar gyfer cais Trwydded Ymarferydd

  • Y ffi ymgeisio a delir fel rhan o'r ffurflen gais.
  • Un llun lliw arddull pasbort wyneb llawn.
  • Tystiolaeth o yswiriant dilys mewn perthynas â chynnal triniaethau arbennig.
  • Tystiolaeth o dystysgrif ddatgeliad sylfaenol diweddar (DBS)
  • Datganiad o droseddau perthnasol (fel y nodir yn y Ddeddf).
  • Tystiolaeth o gwblhau hyfforddiant Lefel 2 (heintiau, atal a rheoli)
  • Gwiriad enw a dyddiad geni (e.e. pasbort, trwydded yrru ac ati).
  • Gwiriad cyfeiriad preswyl cyfredol (e.e. trwydded yrru, llythyr treth gyngor, bil cyfleustodau ac ati).

 

Gwneud cais am Dystysgrif Eiddo Cymeradwy

Rhaid i'r rhai sy'n dymuno cael tystysgrif cymeradwyo ar gyfer eiddo/cerbyd gyflwyno cais i Gyngor Gwynedd gan ddefnyddio'r ffurflen ganlynol a chynnwys dogfennau ategol a ffi.

Ffurflen gais Tystysgrif Eiddo Cymeradwy 

Dogfennau cefnogol ar gyfer Tystysgrif Eiddo Cymeradwy

  • Cynllun eiddo/cerbyd (rhaid iddo gynnwys mynediad/allanfa i'r eiddo ac i mewn i unrhyw ystafelloedd, mesuriadau a siâp unrhyw ystafell a ddefnyddir. Rhaid cynnwys lleoliad sinciau offer, biniau miniog, ystafelloedd staff, mannau storio/cyfleusterau/ystafelloedd ar gyfer cynhyrchion ac offer, toiledau, mannau aros/ystafelloedd, basnau golchi dwylo, biniau gwastraff, ffenestri a gweithfannau.
  • Tystiolaeth o yswiriant dilys a ddelir gan yr ymgeisydd mewn perthynas â'r eiddo neu'r cerbyd.

 

Ffioedd

Tyllu'r croen
 Trwydded NewyddAdnewyddu 
 Trwydded Gweithdrefnau Arbennig (3 mlynedd).  £203.00  £189.00
 Tystysgrif Eiddo Cymeradwy (3 Blynedd)  £385.00  £345.00

 

Ffioedd eraill

Ffioedd eraill
  Ffioedd eraillFfi 
 Trwydded gweithdrefnau arbennig dros dro (mwyafrif 7 diwrnod). £92.00 
 Amrywio trwydded gweithdrefnau arbennig (ychwanegu gweithdrefn newydd i drwydded).  £131.00
 Amrywio trwydded gweithdrefnau arbennig (newid manylion ar drwydded).  £26.00
 Amrywio tystysgrif Eiddo/cerbyd Cymeradwy (ychwanegu gweithdrefn)   £189.00
  Amrywio tystysgrif Eiddo/cerbyd Cymeradwy (newid manylion)    £26.00


Cyfnod trwydded

Mae trwydded gweithdrefnau arbennig a thystysgrif eiddo yn para am gyfnod o 3 blynedd. Mae trwyddedau dros dro yn ddilys am ddim mwy na 7 diwrnod.

 

Rhagor o wybodaeth

 

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y cynllun trwyddedu triniaethau arbennig, cysylltwch  â: