Pwyllgor Safonau
Mae gan y pwyllgor statudol hwn rôl bwysig o ran hyrwyddo, cynnal a gwella safonau ymddygiad aelodau’r Awdurdod a chynghorau cymuned a thref y sir.
Mae’n bwyllgor statudol, ac mae ganddo’r swyddogaethau canlynol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000:
- hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad gan Gynghorwyr
- cynorthwyo’r Cynghorwyr i ddilyn y Cod Ymddygiad Aelodau;
- cynghori’r Cyngor ar fabwysiadu neu ddiwygio’r Cod Ymddygiad Aelodau;
- monitro gweithrediad y Cod Ymddygiad Aelodau;
- cynghori, hyfforddi neu drefnu i hyfforddi Cynghorwyr ar faterion yn ymwneud â’r Cod Ymddygiad Aelodau;
Mewn perthynas â Chyngor Gwynedd mae ganddo hefyd y swyddogaethau canlynol:
- monitro cydymffurfiaeth arweinwyr grwpiau gwleidyddol ar y cyngor â’u dyletswyddau o dan adran 52A(1) Deddf Llywodraeth Leol 2000;
- cynghori, hyfforddi neu drefnu i hyfforddi arweinwyr grwpiau gwleidyddol ar y cyngor ynghylch materion sy’n ymwneud â’r dyletswyddau hynny.
Aelodau’r Pwyllgor
Mae cyfanswm o 9 o aelodau ar y Pwyllgor sef:
- 5 Aelod Annibynnol (nad ydynt yn aelodau o Gyngor Gwynedd nag unrhyw gyngor tref neu gymuned). Bydd Cadeirydd a’r Is-gadeirydd y Pwyllgor yn dod o blith yr aelodau yma.
- 3 Aelod Etholedig sy’n gynghorwyr Gyngor Gwynedd
- 1 Aelod Cymunedol sy’n aelod o gyngor tref neu gymuned
Gweld aelodaeth bresennol y Pwyllgor
Cyfarfodydd y Pwyllgor Safonau
Gweld Cofnodion a Rhaglenni y Pwyllgor
Y Cod Ymddygiad
Mae’n rhaid i bob cyngor fabwysiadu Cod Ymddygiad i’w aelodau etholedig a chyfetholedig. Pan fydd aelod yn derbyn ei swydd bydd yn ymgymryd i barchu’r Cod Ymddygiad ei (h)awdurdod.
Gweld Côd Ymddygiad i Aelodau Cyngor Gwynedd
Mae gan Gyngor Gwynedd hefyd ‘Safon Gwynedd’ sef dogfen sy’n egluro’r safonau ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth gynghorwyr Cyngor Gwynedd wrth ymdrin â’i gilydd. Mae’r ddogfen yma i’w gweld fel Atodiad i’r Cod Ymddygiad.
Cwynion
Os am wneud cwyn ffurfiol bod aelod wedi methu cadw at y Cod Ymddygiad rhaid ei chyfeirio at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Os bydd yr Ombwdsmon yn ymchwilio i gŵyn gall ei chyfeirio at y Pwyllgor Safonau neu Banel Dyfarnu Cymru i benderfynu os yw’r aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad ac os byddai cosb yn briodol.
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Yn ogystal ag ymchwilio i gwynion, mae’r Ombwdsmon yn darparu gwybodaeth a chanllawiau i aeloau etholedig a chyfetholedig ar y Cod Ymddygiad
Am wybodaeth pellach ewch at wefan yr Ombwdsmon:
Gwefan Ombwdsmon