Cwyn ffurfiol / Canmoliaeth
Canmoliaeth
Rydym wastad yn gwerthfawrogi derbyn canmoliaeth am rywbeth mae’r Cyngor wedi ei wneud yn dda. Mae canmoliaeth yn helpu i godi morâl staff, gan fod pawb yn hoffi cael eu gwerthfawrogi. Bydd unrhyw ganmoliaeth yn cael ei anfon ymlaen at y gwasanaeth perthnasol bob tro.
Cyflwynwch eich canmoliaeth yma.
Ar y llaw arall, o bryd i’w gilydd, bydd pethau’n mynd o’i le, ac rydym yr un mor awyddus i glywed am hynny hefyd. Mae cwynion yn ein helpu i wneud yn siŵr eich bod yn derbyn y gwasanaeth y dylech, ac i wella ein gwasanaethau ar gyfer y dyfodol.
Cwyn Ffurfiol
Gallwch gyflwyno cwyn i’r Cyngor os ydych yn anhapus gyda safon y gwasanaeth yr ydych wedi ei dderbyn gan y Cyngor, neu os ydych yn anhapus gyda rhywbeth y mae’r Cyngor, neu aelod o staff, wedi ei wneud neu wedi methu ei wneud.
Gallwch lenwi ffurflenni ar-lein bellach i roi gwybod am:
Os yw eich cwyn yn ymwneud ag un o’r meysydd penodol isod, defnyddiwch y cysylltau canlynol:
Y peth cyntaf y dylech ei wneud os ydych yn anhapus gyda’r gwasanaeth yr ydych wedi ei dderbyn yw cysylltu â’r swyddog sy’n darparu’r gwasanaeth i chi gan egluro’r hyn sy’n eich poeni a’r hyn y credwch y dylai’r Cyngor wneud. Os na all yr aelod staff helpu bydd yn egluro pam, a gallwch ofyn am ymchwiliad ffurfiol.
- Ffurflen cwyno/ adrodd pryder
- Ffonio: 01766 771000
- Post: Swyddog Gwella Gwasanaeth, Cefnogaeth Gorfforaethol, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jel, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH
- Gofynnwch i’r sawl rydych wedi bod mewn cysylltiad â nhw yn barod am gopi o’r Ffurflen Cwyno / Adrodd pryder
Os ydych yn cyflwyno cwyn/pryder ffurfiol, dyma fydd yn digwydd:
- Byddwn yn cydnabod eich pryder yn ffurfiol o fewn 5 diwrnod gwaith
- Byddwn yn ceisio datrys pryderon mor gyflym â phosibl a byddwn yn disgwyl delio â'r mwyafrif helaeth o fewn 20 diwrnod gwaith. Os yw eich cwyn yn fwy cymhleth, byddwn yn rhoi gwybod i chi o fewn y cyfnod hwn pam y credwn y gallai gymryd mwy o amser i ymchwilio
- Byddwn yn eich diweddaru yn rheolaidd am unrhyw ddatblygiadau
Os na fyddwn yn llwyddo i ddatrys eich cwyn, gallwch gwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae'r Ombwdsmon yn annibynnol ar bob corff y llywodraeth a gall ymchwilio i'ch cwyn os ydych yn credu eich bod chi'n bersonol, neu'r sawl yr ydych yn cwyno ar ei ran wedi cael eich trin/ei drin yn annheg. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt yr Ombwdsmon ar eu gwefan.
Mae sefydliadau eraill sy’n rhoi sylw i gwynion penodol hefyd - er enghraifft, Comisiynydd yr Iaith Gymraeg ynghylch gwasanaethau yn y Gymraeg. Gallwn eich cynghori am sefydliadau o'r fath.
Fe hoffwn ni hefyd gynnig copi hawdd ei ddarllen o'r Polisi.
Os ydych o dan 18 oed ac angen cymorth i gyflwyno eich cwyn neu bryder, gall y sefydliadau canlynol eich helpu:
Mwy o wybodaeth
Gweld polisi pryderon a chwynion Cyngor Gwynedd
Neu gweld Copi Hawdd ei Ddarllen o'r polisi
E-bost: cwynion@gwynedd.llyw.cymru
Ffôn: 01766 771000
Datganiad preifatrwydd