Ceisiadau amserol - Bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i gwrdd ag anghenion cwmnïau teledu a chriwiau cynhyrchu tra ar yr un pryd parhau i ddarparu gwasanaethau i bobl Gwynedd. I sicrhau tegwch i holl ddefnyddwyr adnoddau, gofynnir am bythefnos o rybudd ar gyfer ceisiadau ffilmio. Gall ceisiadau byr rybudd a munud olaf gael eu gwrthod.
Diogelwch – Cyfrifoldeb y cwmni cynhyrchu eu hunain ydi sicrhau asesiad risg ac yswiriant atebolrwydd cyhoeddus. Mae’n bosib bydd Cyngor Gwynedd yn gofyn am gopi o’r dogfennau perthnasol.
Ffioedd – Mae’n bosib y bydd ffi i’w dalu am ffilmio ar dir y Cyngor, bydd mwy o wybodaeth yn cael ei ddarparu yn ystod unrhyw drafodaethau.
Parcio – Gofynnir i griwiau cynhyrchu wneud defnydd o feysydd parcio cyhoeddus i’r gorau o’u gallu. Mae lleoliadau a ffioedd meysydd parcio ‘talu ac arddangos’ y Cyngor i’w gweld yma. Gellir trafod unrhyw anghenion ychwanegol wrth brosesu’r cais.
Parchu cymunedau Gwynedd – Mae Cyngor Gwynedd yn gofyn yn garedig i holl griwiau ffilmio i barchu cymunedau’r sir, i barcio’n ystyrlon a mynd â sbwriel adref gyda chi.