Cyngor Gwynedd yn erlyn cyflogwr esgeulus yn llwyddiannus
Dyddiad: 28/02/2024
Mae dau gyfarwyddwr maes carafanau yn Nhalybont ger Y Bermo wedi cael gorchymyn i dalu mwy na £160,000 rhyngddynt ar ôl i weithiwr ddioddef anafiadau difrifol i'w law.
Digwyddodd y ddamwain ar barc carfannau dan berchnogaeth ‘Sunnysands Caravan Park Limited’ ar y 12fed o Fai 2020. Roedd y gweithiwr yn defnyddio llif fwrdd heb ei warchod ar y safle pan ddigwyddodd y ddamwain. Cafodd y gweithiwr ei gludo mewn ambiwlans i ysbyty ac mae wedi derbyn nifer o driniaethau arbenigol mewn ymdrech i adennill defnydd llawn o’i law.
Bu i ymchwiliad gan Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Gwynedd sefydlu fod y gweithiwr wedi bod yn defnyddio bwrdd llif ar gyfer torri pren pan ddaeth ei law chwith i gyswllt gyda’r llif, oedd heb warchodwr.
Rhoddodd swyddogion o Gyngor Gwynedd dystiolaeth yn y treial dilynol a dywedwyd wrth y llys fod y llif fwrdd gyda nifer o ddiffygion ac nad oedd gweithgareddau ar y safle wedi bod yn destun derbyn asesiad risg digonol
Eglurwyd i’r Barnwr Rhanbarth Gwyn Jones yn Llys Ynadon Llandudno ar y 19eg o Chwefror 2024 fod y ddau gyfarwyddwr, Christopher Mead, a Jeremy Mead, wedi bod yn esgeulus drwy ganiatáu defnydd offer oedd mewn cyflwr peryglus.
Fe ddywedodd Mr Hart, cynrychiolydd cyfreithiol y Cyngor “Roedd y ddamwain yma yn un amlwg ac yn un y medr fod wedi ei hatal rhag digwydd. Roedd bosib rheoli’r sefyllfa drwy gymryd mesurau rhad , fel amnewid yr offer diffygiol neu osod gwarchodwr dros y llif. “
Pleidiodd Christopher Mead a Jeremy Mead yn euog i dorri rhan 2 o’r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle ayb 1974. Cafodd y ddau ddirwy o £75,000 yr un ynghyd a gorchymyn i dalu costau o £5338 yr un a thal ychwanegol o £190.
Ar ôl y gwrandawiad, dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Adran yr Amgylchedd Cyngor Gwynedd: “Mae ein meddyliau gyda’r gweithiwr sydd wedi dioddef anafiadau difrifol sy’n parhau i effeithio arno. Mae’n frawychus meddwl faint gwaeth y gallai’r digwyddiad fod wedi bod a byddai’n hawdd osgoi’r digwyddiad cyfan – a’i ganlyniadau – pe bai mesurau diogelu sylfaenol wedi’u rhoi ar waith.
“Dyma’r ail erlyniad yn ymwneud â defnyddio llifiau bwrdd peryglus i Gyngor Gwynedd ei gymryd dros y blynyddoedd diwethaf. Dylai pob cyflogwr sicrhau ei fod yn asesu ac yn defnyddio mesurau rheoli effeithiol yn briodol i leihau'r risg o ddefnyddio peiriannau yn eu gweithleoedd.”
“Rydym yn ddiolchgar i’r Llysoedd am eu gwaith ac rydym yn gobeithio y bydd y ddirwy sylweddol hon yn anfon neges glir i gyflogwyr eraill bod amddiffyn yr union bobl sy’n gweithio ac yn ymweld â’ch eiddo o’r pwys mwyaf.”