Gwefan newydd i helpu pobl Gwynedd ddygymod a heriau chostau byw
Dyddiad: 08/02/2024
Gyda’r argyfwng costau byw yn parhau a mwy o bobl yn ei gweld hi’n anoddach nac erioed i ymdopi gyda biliau’n codi, mae Cyngor Gwynedd wedi creu tudalen newydd ar y wefan i helpu.
Bwriad y dudalen yw ceisio sicrhau fod pobl Gwynedd yn derbyn yr holl gymorth, cefnogaeth a chyngor ymarferol maent yn gymwys amdano.
Mae’r dudalen newydd hon yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch biliau cartref, budd-daliadau, help gyda chostau ysgol, help i gael bwyd a llawer iawn mwy.
Mae Cyngor Gwynedd yn deall fod costau byw yn fater preifat ac yn gallu bod yn bwnc sensitif, felly gall pobl ddod o hyd i’r holl wybodaeth maent ei angen yn ogystal a rhifau ffôn defnyddiol mewn un lle ar eu ffôn clyfar, dyfais lechen neu gyfrifiadur personol.
Dywedodd Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd a’r Aelod Cabinet sy’n arwain yr agenda trechu tlodi :
“Yn dilyn cyfnod drud y Nadolig a’r gaeaf oer,yn anffodus mae costau byw yn parhau i godi, felly mae’n amserol i atgoffa pobl Gwynedd lle mae modd iddynt ddod o hyd i’r cymorth sydd ar gael.
“Yn rhy aml, dydi pobl ddim yn sylweddoli pa help sydd ar gael na beth maent yn gymwys amdano. Efallai fod pobl yn colli allan ar bethau fyddai’n gwneud eu bywydau yn haws a mwy cyfforddus ac mae’r dudalen newydd ar y wefan yn cynnwys gwybodaeth eang am gymorth.
“Rwyf yn annog unrhyw un i fynd i ymweld â’r dudalen newydd ble mae popeth ar gael mewn un lle ar flaenau eich bysedd, ddydd a nos.”
Gall pobl nad oes ganddynt fynediad i’r we gartref ddefnyddio’r cyfrifiaduron sydd ar gael am ddim yn holl lyfrgelloedd Gwynedd i fynd i’r wefan yma. Mae llyfryn gwybodaeth sy’n darparu gwybodaeth am gadw’n gynnes, cymorth ariannol a chefnogaeth gymunedol yn benodol ar gyfer pobl hŷn Gwynedd hefyd ar gael o lyfrgelloedd y sir.
Mae’r holl wybodaeth ar gael ar www.gwynedd.llyw.cymru/cymorthcostaubyw