Cyfle i bobl sydd eisiau gwneud cyfraniad i fywyd cyhoeddus yng Ngwynedd

Dyddiad: 28/02/2025

Mae cyfle unigryw i unigolion sydd â diddordeb mewn safonau ym mywyd cyhoeddus, llywodraethu ac archwilio i gyfrannu at weithrediad Cyngor Gwynedd.

Mae’r Cyngor yn gwahodd ceisiadau i fod yn Aelodau Lleyg ar ei Bwyllgor Safonau a'i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cyfrannu tuag at weinyddiaeth ac arolygiaeth effeithiol o weithrediadau'r Cyngor.

Mae'r Pwyllgor Safonau yn chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad ymhlith aelodau etholedig y Cyngor ac yn darparu arweiniad ar Gôd Ymddygiad y Cyngor.

Mae'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn elfen allweddol o fframwaith llywodraethu Cyngor Gwynedd. Mae'n darparu sicrwydd annibynnol ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd rheoli risg y Cyngor, amgylchedd rheoli mewnol, asesu perfformiad, trin cwynion, a phrosesau adrodd ariannol.

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer rôl Aelod Lleyg, rhaid i ymgeiswyr:

  • Beidio â bod yn aelod neu'n swyddog o unrhyw awdurdod lleol.
  • Beidio â bod wedi bod yn aelod neu'n swyddog o unrhyw awdurdod lleol yn ystod y deuddeg mis diwethaf.
  • Beidio â bod yn briod neu'n bartner sifil i aelod neu swyddog o unrhyw awdurdod lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Dyma gyfleoedd unigryw i wneud gwahaniaeth a chael dylanwad ar lywodraethu a chynnal safonau o fewn llywodraeth leol.

“Rydym yn chwilio am unigolion ymroddedig a brwdfrydig, sydd â diddordeb mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae rhain yn gyfleoedd gwych naill ai i agor y drws i fywyd cyhoeddus, neu i rannu profiad ac arbenigedd.

“Os ydych yn berson gwrthrychol, yn gallu meddwl yn annibynnol gyda sgiliau cyfathrebu da, os gwelwch yn dda ystyriwch y cyfleoedd hyn.”

Am fwy o wybodaeth, a manylion sut i ymgeisio, ewch i wefan Cyngor Gwynedd: www.gwynedd.llyw.cymru/PwyllgorSafonau neu www.gwynedd.llyw.cymru/AelodLleyg

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 20 Mawrth, 2025.