Cyngor Gwynedd yn torri tir newydd gyda cymorth rhiantu cyfrwng Cymraeg

Dyddiad: 20/02/2025
Mae adnodd newydd wedi ei lansio sy’n defnyddio technoleg boblogaidd i chwalu tabŵ ynghylch rhai o’r heriau cyffredin mae rhieni i fabis a plant bach yn eu hwynebu.

Mae Cyngor Gwynedd yn torri cwys newydd drwy gynhyrchu cyfres o podlediadau iaith Gymraeg er mwyn helpu teuluoedd ar y daith trwy blynyddoedd allweddol plentyndod.

Bwriad y bennod gyntaf o’r podlediad yw helpu rhieni i ddysgu plant i ddefnyddio’r toiled, gan ymdrin a’r mater mewn ffordd gyfeillgar, cynnes a hwyliog – a hyn oll drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer rhagor o benodau yn trafod themâu  eraill megis iechyd meddwl rhieni a materion iaith a lleferydd. 

Sbardunwyd swyddogion o Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd i greu’r gyfres podlediadiadau “Mam, Dad a Magu” wedi gweld yr angen am ffordd newydd o siarad efo rhieni am broblemau cyffredin sy’n yn gallu cael effaith ar ddatblygiad naturiol plant, a hynny yn Gymraeg.

Dywedodd Eirian Williams, Swyddog Prosiect o Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd:

“Mae disgwyl i bob plentyn sy’n mynd i ysgol yng Ngwynedd wybod sut mae defnyddio’r toiled cyn dechrau dosbarth meithrin. Ond yn anffodus, rydan ni’n gweld mwy a mwy o blant yn dod i fewn dal yn eu clytiau.

“Mae hyn yn cael effaith fawr ar y dosbarth a gallu athrawon a chymorthyddion i wneud eu gwaith, os ydynt yn gorfod treulio amser yn newid napis yn hytrach na gwneud gweithgareddau efo’r plant.

“Rydym eisoes yn rhoi pecyn i bob plentyn i fynd adref efo nhw efo pethau i helpu efo dysgu mynd i’r toiled, a mae gwneud y podlediad hwn yn gam cyffrous ymlaen. Rydan ni wedi meddwl yn galed am sut mae pobl yn hoffi derbyn gwybodaeth y dyddiau hyn ac yn gweld hwn yn ffordd gyfeillgar o afael yn llaw rhieni, gwarchodwyr neu unrhyw un arall sy’n magu plant a’u helpu ar hyd rhan yma o’r daith.

“Os ydach chi’n chwilio ar-lein am gymorth, mae cymaint o bethau ar gael drwy gyfrwng y Saesneg ond prin ddim drwy’r Gymraeg. Yma yng Ngwynedd, mae’n gwbwl naturiol i deuluoedd fod eisiau trafod pethau fel hyn yn Gymraeg, felly dyma fwrw iddi gyda’r pod-lediad. Mae’r ymateb hyd yma wedi bod yn bositif iawn a rydym wedi penderfynu yn barod i gynhyrchu rhagor o benodau.”

Mae’r rhifyn cyntaf o “Mam, Dad a Magu” yn cael ei gyflwyno gan yr actores a’r podledwraig Mari Elen – sydd hefyd yn fam i blant bychan. Mae panel o arbenigwyr yn y maes yn ymuno â hi, sef Nia Krijnen o dîm Pediatrig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; Alaw Parry, Nyrs Ysgol Ymataliaeth; a Sharon Morgan, Nyrs Feithrin Ymataliaeth. Diolch yn fawr i’r bedair am fod yn rhan o’r podlediad cyntaf.

Ychwanegodd Eirian Williams, Swyddog Prosiect o Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd: “Dydan ni ddim yma i farnu rhieni na gweld bai, ein bwriad ydi helpu teuluoedd.

“Mae pobl yn gallu bod yn anghyfforddus siarad am faterion fel hyn, sy’n gallu arwain at broblemau yn ei hun. Os ydach chi ofn gofyn beth sy’n normal ac ofn dweud eich bod yn mynd trwy amser anodd, rydych mewn peryg o fethu allan ar yr help sydd ar gael.

“Ein gobaith ydi torri’r tabŵs ac annog pobl i siarad yn agored. Mae’r podlediad ar gael yn rhad ac am ddim ar blatfformau poblogaidd fel YouTube, Spotify ac Apple, ac mae gwybodaeth ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd.

“Os oes teuluoedd allan yng Ngwynedd sydd eisiau mwy o wybodaeth neu gymorth, mae modd cysylltu â tîm Teulu Gwynedd ar 01286 678824.”

Meddai’r Cynghorydd Menna Trenholme, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Adran Plant a Theuluoedd: “Rydw i’n croesawu’r datblygiad hyn yn fawr, mae’n gyffroes gweld y math yma o adnodd ar gael i rieni ac yn rhywbeth i’w ganmol.

“Rydw i’n meddwl ei fod yn bwysig fod teuluoedd yn gallu siarad am y math yma o faterion mewn ffordd anffurfiol a naturiol. Dwi’n cofio – pan roedd fy mhlant fy hun yn llai – pa mor bwysig oedd i gofio fod pob plentyn yn datblygu ac yn dysgu yn ei ffordd ei hun, a nad ydynt yn cystadlu efo plant eraill i gyrraedd y cerrig milltir. Dwi’n meddwl fod pod-lediad fel hwn o gymorth i deuluoedd i gefnogi plant ar hyd y ffordd.”

Mae rhifyn cyntaf pod-lediad “Mam, Dad a Magu” Cyngor Gwynedd ar gael yma O'r Napi I'r Poti | Mam, Dad a Magu | 1 ar YouTube, neu chwiliwch amdano ar Apple a Spotifiy. Bydd rhifynnau pellach yn cael eu hychwanegu yn fuan.