Cynhadledd Economi Ymweld Gwynedd & Eryri: Datblygu Economi Ymweld Cynaliadwy yn yr Ardal

Dyddiad: 11/02/2025

Bydd Cynhadledd Economi ymweld Gwynedd & Eryri yn cael ei chynnal ar 14eg o Chwefror 2025 yn Neuadd Reichel ym Mhrifysgol Bangor. Nod y gynhadledd yw dod ac arbenigwyr y diwydiant, busnesau lleol, arweinyddion cymunedol a gwneuthurwyr polisi ynghyd er mwyn darganfod ffyrdd newydd o ddatblygu economi ymweld cynaliadwy sy’n ffynnu ar hyd y rhanbarth.

Fel rhan o strategaeth hirdymor Gwynedd ac Eryri 2035 mi fydd y gynhadledd yn amlygu treftadaeth ddiwylliannol a naturiol y rhanbarth – gan gynnwys y tirweddau trawiadol, y bioamrywiaeth a’r cymunedau lleol bywiog. Bydd gan y mynychwyr gyfle i gymryd rhan mewn sgyrsiau panel, cyflwyniadau manwl a chyfleoedd rhyngweithio fydd yn manylu ar rannu arferion da ar gyfer twristiaeth gyfrifol.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau gan arbenigwyr y diwydiant megis Yr Athro Terry Stevens sy’n adnabyddus am ei waith ar dwristiaeth gynaliadwy yn ogystal a chynrhychiolwyr o Mentra’n Gall, Eco-Amgueddfa Llŷn a Phlas Coch Llanberis. Yn ogystal mi fydd trafodaeth banel yn cael ei harwain gan Bethan Price yn darparu mewnweliadau gan weithwyr proffesiynol Grŵp Llandrillo Menai, Prifysgol Bangor, a Cymunedoli.

Bydd gan fynychwyr y cyfle i gyfrannu at syniadau i’w gweithredu trwy rannu negesuon hanfodol a blaenoriaethau mewn sesiynau rhyngweithiol. Bydd arddangoswyr gan gynnwys Piws, Mentra’n Gall, Llechi Cymru a Cefnogaeth Busnes Gwynedd yno er mwyn darparu adnoddau a chyfleoedd pellach.

Croesawodd y Cynghorydd R.Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd ar gyfer yr Economi a Chymunedau y digwyddiad blynyddol cyntaf yma:

“Trwy weithio gyda’n gilydd i ddatblygu Cynllun Gwynedd ac Eryri 2035 rydym wedi datblygu strwythur partneriaeth er mwyn sicrhau cydweithio ac i weithredu ein gweledigaeth ac egwyddorion ar draws yr ardal.

"Rydym eisiau dathlu’r ymarferion da sy’n digwydd mewn perthynas a thwristiaeth gynaliadwy yma heddiw, ac hefyd eisiau rhannu enghreifftiau o sut mae ardaloedd eraill yn y byd yn ceisio sicrhau mwy o gydbwysedd i’r economi ymweld.

"Mae’r digwyddiad yma’n ran o’n partneriaeth newydd ac yn arddangos ein uchelgais i weithio’n wahanol ar gyfer budd y bobl, amgylchedd, Iaith a diwylliant Gwynedd ac Eryri”.

Dywedodd Jonathan Cawley, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

“Mae’r gynhadledd hon yn garreg filltir ar ein taith tuag at weledigaeth Gwynedd ac Eryri 2035.

"Rydym yn edrych ymlaen at ddarparu llwyfan i bartneriaethau hen a newydd ffynnu a fydd nid yn unig yn hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy ond yn dathlu rhinweddau arbennig ein ardaloedd”.